Neidio i'r prif gynnwy

Cynllun Gwȇn – Iechyd y Geg

Mae’r Cynllun Gwên yn rhaglen genedlaethol i wella iechyd y geg plant yng Nghymru, ac fe’i weithredir yn lleol gan y Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol. Y nod yw lleihau anghydraddoldebau iechyd y geg i blant sy'n byw yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig.

Mae Cynllun Gwên yn annog plant i frwsio dannedd dan oruchwyliaeth mewn rhai meithrinfeydd ac ysgolion babanod yng Nghymru. Mae hyn yn ychwanegol at frwsio dannedd gartref. Mae rhai disgyblion ysgol hefyd yn cael cynnig rhoi farnais fflworid ar eu dannedd ddwywaith y flwyddyn.

Mae triniaeth ddeintyddol y GIG am ddim i ferched beichiog ac yn y cyfnod sy’n dilyn yr enedigaeth, hyd nes y bydd eich babi yn flwydd oed. Mae triniaeth ddeintyddol hefyd am ddim i'ch babi. I gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau deintyddol cyffredinol, gan gynnwys cyngor ar ddod o hyd i ddeintydd y GIG, cliciwch ar y gwasanaethau deintyddol cyffredinol

Gofalu am ddannedd gartref

Gwybodaeth ddefnyddiol am ofalu am iechyd y geg yn ystod beichiogrwydd, ac ar gyfer babanod newydd-anedig hyd at 5 oed:

Bwyta'n Iach

Bob tro y byddwch chi'n bwyta neu'n yfed rhywbeth sy'n cynnwys siwgr, mae bacteria plac ar eich dannedd yn gwneud asid sy'n ymosod ar wyneb y dant. Dros gyfnod o amser, bydd twll neu geudod yn ffurfio. Gelwir hyn yn bydredd dannedd.

Cyngor defnyddiol i atal pydredd dannedd:

  • Cyn gynted ag y byddwch chi’n dechrau rhoi bwyd solet i’ch plentyn, peidiwch ag annog dant melys.
  • Peidiwch ychwanegu siwgr at fwydydd a diodydd.
  • Peidiwch byth â rhoi dymi mewn rhywbeth melys.
  • Peidiwch byth â rhoi diodydd llawn siwgr mewn poteli bwydo neu gwpanau babanod.
  • Cwtogwch ar faint o siwgr rydych chi'n ei fwyta. Cewch ragor o wybodaeth fan hyn am awgrymiadau defnyddiol ar gyfer bwyta'n iach a byrbrydau i'ch plentyn.
  • Peidiwch â bwyta unrhyw fyrbrydau llawn siwgr rhwng prydau – bydd hyn yn rhoi cyfle i ddannedd gael adferiad ar ôl yr asid.
  • Rhowch ddim ond dŵr plaen a llaeth yn niodydd plant ifanc.

Efallai y bydd angen i aelodau gwahanol o’r tîm deintyddol yn cynnwys deintyddion, hylenwyr, therapyddion a nyrsys deintyddol roi eich triniaeth, gallwch ganfod beth mae’r tîm deintyddol yn ei wneud ar ein tudalen gwasanaethau deintyddol cyffredinol.

Gwybodaeth ac adnoddau defnyddiol