Gellir dod o hyd i wybodaeth am iechyd y geg ar gyfer eich babi newydd-anedig hyd at 5 oed, ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru- Cynllun Gwên Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol am:
- Arwyddion o dorri dannedd a gofalu am ddannedd eich plentyn wrth iddynt dyfu.
- Risgiau o ddefnyddio dymi am gyfnod hir o amser.
- Sefydlu trefn ddyddiol a goruchwylio brwsio dannedd. Gwyliwch y fideo dwy funud yma am frwsio dannedd gan CYW S4C, er mwyn gwneud y gweithgaredd yn un llawn hwyl i'ch plentyn.
- Cyngor ar fwyta ac yfed yn iach i atal pydredd dannedd.
- Mynd â'ch plentyn am apwyntiadau deintyddol.
Cewch hyd i ragor o wybodaeth ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru - Cynllun Gwên.