Yn y DU, argymhellir aros tan tua 6 mis oed cyn cyflwyno bwydydd solet i'ch babi. Am y 6 mis cyntaf, bydd eich babi yn cael popeth sydd ei angen arno o laeth y fron neu laeth fformiwla sydd wedi'i baratoi’n gywir. Pan fyddan nhw tua 6 mis oed, bydd llawer o fabanod yn gallu trafod amrywiaeth o fwydydd fel piwrî a bwydydd wedi’u stwnsio yn ogystal ag yn gallu dal bwydydd bysedd meddal.
Mae pob babi yn wahanol, ond mae tri arwydd clir sydd, gyda'i gilydd, yn dangos bod babi yn barod am rai bwydydd solet ynghyd â llaeth y fron neu laeth fformiwla babanod. Mae'n beth prin iawn gweld yr arwyddion hyn i gyd yn ymddangos cyn i’r babi fod yn 6 mis oed.
Arwyddion bod eich babi yn barod am fwydydd solet (tua 6 mis oed)
Dewiswch amser pan fydd eich babi yn effro ac yn fywiog er mwyn cyflwyno’r blasau cyntaf iddo. Os byddwch yn penderfynu cyflwyno bwydydd solet cyn iddo fod yn 6 mis oed, bydd angen sterileiddio pob plât, powlen a chyllell a fforc cyn eu defnyddio. Am ragor o wybodaeth, siaradwch â'ch ymwelydd iechyd neu ewch i'r tudalennau canlynol
Complementary feeding (weaning) - BDA