SEXtember yw ymgyrch flynyddol iechyd rhywiol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sy’n hyrwyddo ymwybyddiaeth ynghylch materion iechyd rhywiol yn ystod mis Medi.
Gall HIV effeithio ar unrhyw un, gan gynnwys chi. Gadewch i ni gael profion.
Gallai unrhyw un ddal HIV gan bartner rhywiol sydd â’r feirws HIV. Gall profi rheolaidd helpu i'ch amddiffyn chi a'ch partner, a helpu i atal y feirws rhag lledaenu ymhellach.
Mae profion yn rhad ac am ddim, yn hawdd ac yn gyfrinachol. Gallwch archebu pecyn profi gartref, neu fynd i un o'n clinigau iechyd rhyw neu'ch meddygfa.
Gellir trin HIV, a gellir ei reoli'n ddiogel gyda meddyginiaeth. Mae llawer o bobl yn byw bywydau hir ac iach o gael triniaeth effeithiol, heb drosglwyddo'r feirws.
Mae profion rheolaidd yn ein helpu i atal lledaeniad HIV ac i ddal achosion newydd yn gynnar. Bydd cyfraddau uwch o brofion HIV yn ein helpu i gyflawni targed Llywodraeth Cymru a Sefydliad Iechyd y Bydo weld dim heintiau HIV newydd erbyn 2030.
Mae gan bobl sy'n derbyn diagnosis hwyr risg gynyddol o salwch, cymhlethdodau a mwy o debygolrwydd o drosglwyddo'r feirws i eraill. Gan amlaf, y bobl sy'n derbyn diagnosis yn hwyr yw dynion a menywod heterorywiol.
Gellir cael mwy o wybodaeth am ddulliau atal cenhedlu, beichiogrwydd, STIs a rhyw gan Sexwise.
Gallwch ddysgu mwy am fenter ymwybyddiaeth ac addysg i'r cyhoedd Tackle HIV, dan arweiniad Gareth Thomas gyda ViiV Healthcare a Terrence Higgins Trust.
Gall eich clinig iechyd rhyw lleol lleol, Meddyg Teulu neu'r Ganolfan Cyfeirio Ymosodiadau Rhyw roi cymorth a chyngor manwl.
Nod yr ymgyrch yw:
Mae ein hymgyrch wedi'i ddylunio i godi ymwybyddiaeth am wasanaethau iechyd rhyw yng Ngogledd Cymru. Os ydych yn byw yn rhywle arall yng Nghymru, gallwch gael gwybodaeth am wasanaethau sy'n agos at le’r ydych yn byw ar GIG 111 Cymru.
Os hoffech wybodaeth bellach am ymgyrch SEXtember, cysylltwch â Dr Ushan Andrady, Arweinydd yr Ymgyrch, Ymgynghorydd Iechyd Rhywiol/HIV yn BCU.SextemberCampaign@wales.nhs.uk.