Neidio i'r prif gynnwy

Dewisiadau Beichiogrwydd/ Erthyliad

Os yw eich mislif yn rheolaidd, un o'r arwyddion cyntaf a fwyaf dibynadwy yw methu mislif neu fislif ysgafn iawn.

Gall symptomau eraill gynnwys newidiadau mewn hwyliau, blinder, cyfog neu chwydu, crampiau stumog, bronnau dolurus, pasio dŵr yn fwy aml, rhwymedd a sensitifrwydd i rai arogleuon neu flas. Yr unig ffordd o wybod os ydych yn feichiog yw gwneud prawf beichiogrwydd, yr adeg gynharaf ar gyfer prawf beichiogrwydd dibynadwy yw 3 wythnos ar ôl cyfathrach rywiol. Mae profion beichiogrwydd ar gael am ddim mewn clinig iechyd rhyw.

Os ydych yn feichiog ac yn dymuno parhau gyda'r beichiogrwydd, mae'n well i chi gael mynediad at ofal iechyd cyn gynted â phosibl. I wneud hyn, cysylltwch â'ch Meddyg Teulu i drefnu apwyntiad gyda bydwraig. Os ydych yn feichiog ac nid ydych yn dymuno parhau gyda'r beichiogrwydd a'ch bod yn dymuno gwneud cais am erthyliad (terfynu beichiogrwydd) gallwch gael mynediad at y gwasanaeth hwn drwy Wasanaeth Cynghori Beichiogrwydd Prydain (BPAS).

Mae rhagor o wybodaeth am gynllunio eich beichiogrwydd gan gynnwys gwybodaeth cyn cenhedlu ar gael ar ein gwefan. 

Dewisiadau Beichiogrwydd

Os nad ydych yn siŵr p'un a ydych yn dymuno parhau gyda'r beichiogrwydd, mae cyngor ar gael gan:

  • eich Meddyg Teulu neu nyrs yn y feddygfa
  • gwefan NHS
  • Brook, elusen iechyd rhyw ar gyfer pobl ifanc
  • clinig iechyd rhyw

Mae cyngor ar gael hyd yn oed os ydych o dan 16 oed.

Lleoliad Clinig

Mae gennym glinigau mewn ysbytai ac yn y gymuned ar draws Gogledd Cymru. Am fwy o fanylion am y clinigau a'u horiau agor, dewiswch yr ardal yr hoffech gael eich gweld:

Gwefannau defnyddiol