Nid yw’r rhan fwyaf o blant yn profi unrhyw sgil-effeithiau, ond mewn rhai achosion efallai y bydd adwaith yn y man lle cafodd y pigiad ei roi. Rhai o’r adweithiau mwyaf cyffredin yw:
Ar ôl y brechiad, efallai y bydd plant ifainc yn aflonydd am ddiwrnod neu ddau ac efallai y byddant yn datblygu twymyn. Efallai y bydd plant hŷn hefyd yn cael twymyn, blinder, poenau yn y cyhyrau, cur pen neu’n colli archwaeth am ddiwrnod neu ddau.
Mae’r sgil-effeithiau hyn fel arfer yn diflannu’n gyflym. Mae sgil-effeithiau mwy difrifol yn ofnadwy o anghyffredin.