Neidio i'r prif gynnwy

Dal i fyny â brechiadau polio a brechiadau plentyndod arferol

Mae ein timau brechu a meddygfeydd yn cysylltu â rhieni plant nad ydynt wedi cael eu brechiad polio diweddaraf ac yn eu gwahodd i atgyfnerthu eu hamddiffyniad yn erbyn y clefyd.

Wrth i ni adolygu cofnodion imiwneiddio, byddwn hefyd yn gwahodd plant sydd angen dal i fyny â brechiadau arferol eraill i ddod i’w derbyn.

 

Dal i fyny â brechiadau polio

Mae polio yn glefyd difrifol sy’n effeithio’n bennaf ar blant dan bum mlwydd oed. Mewn rhai achosion, gall fygwth bywyd. Erbyn hyn, mae polio yn brin yn y DU oherwydd rhaglen frechu effeithiol.

Mae’r risg o ddal polio yng Ngogledd Cymru yn ofnadwy o isel. Ond yn y misoedd diwethaf, mae poliofeirws wedi'i ganfod mewn dŵr gwastraff o samplau carthffosiaeth yn Llundain. Er mwyn parhau i amddiffyn plant yng Ngogledd Cymru rhag polio, rydym eisiau gwahodd plant nad ydynt wedi cael eu brechiadau polio diweddaraf i atgyfnerthu eu hamddiffyniad yn erbyn y clefyd.

Mae cyfraddau uchel o frechiadau polio yn amddiffyn pob plentyn yng Ngogledd Cymru.

Rydym bellach yn adolygu cofnodion imiwneiddio plant er mwyn adnabod plant nad ydynt wedi’u hamddiffyn yn llawn yn erbyn polio ac rydym yn gwahodd y rhai sydd angen brechiadau ychwanegol i ddod i’w derbyn. Os oes rhywun wedi cysylltu â chi, efallai bod hynny oherwydd bod eich plentyn wedi colli dos o frechiad polio neu frechlyn arall.

 

Am y brechiadau polio

Mae pob plentyn yn cael cynnig amddiffyniad yn erbyn polio fel rhan o'r amserlen frechu arferol yng Nghymru.

Fe'i rhoddir fel arfer mewn 5 dos:

  • yn 8, 12 a 16 wythnos oed fel rhan o'r brechlyn 6-mewn-1
  • yn 3 oed a 4 mis fel rhan o’r brechlyn atgyfnerthu 4-mewn-1 (DTaP/IPV) i blant cyn oed ysgol
  • ac yn 14 oed fel rhan o’r brechlyn atgyfnerthu 3-mewn-1 ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau

Bydd cael pob dos cyn gynted ag y mae’n cael ei chynnig yn helpu eich plentyn i gael yr amddiffyniad gorau posibl.

Os nad ydych yn credu bod eich plentyn wedi’i amddiffyn yn llwyr yn erbyn polio, gallwch gysylltu â’ch ymwelydd iechyd neu feddygfa i drefnu apwyntiad dal i fyny.

 

Cwestiynau cyffredin

 

Dal i fyny â brechiadau plentyndod

Os nad yw eich plentyn wedi cael ei frechiadau diweddaraf, gallwch bob amser gysylltu â'ch ymwelydd iechyd neu'ch meddygfa i drefnu apwyntiad dal i fyny.

Wrth i ni adolygu cofnodion imiwneiddio, byddwn hefyd yn gwahodd rhieni y mae eu plant angen dal i fyny â brechiadau arferol eraill fel eu bod yn eu derbyn.