Neidio i'r prif gynnwy

Pobl (gan gynnwys plant) â chyflwr iechyd hirdymor sy'n eu rhoi mewn perygl o niwed

Y Ffliw

Er mwyn helpu i amddiffyn y rhai sydd fwyaf agored i niwed, gall unrhyw un rhwng chwe mis a 64 oed sydd â chyflwr iechyd hirdymor sy’n eu rhoi mewn mwy o berygl o niwed gael brechlyn ffliw am ddim.

Mae cyflyrau iechyd cymwys yn cynnwys cyflyrau anadlol (asthma, COPD), clefyd y galon, clefyd yr arennau (cam 3, 4 neu 5), clefyd yr afu, clefyd niwrolegol (Parkinson's, MND), diabetes, epilepsi, system imiwnedd wannach o ganlyniad i driniaeth ar gyfer e.e. HIV /AIDS a chanser, asplenia neu gamweithrediad y ddueg, a gordewdra (BMI o 40+).

O 2 Ionawr ymlaen, gall pob oedolyn sy’n gymwys ar gyfer y brechiad ffliw alw heibio i un o’n clinigau brechu cymunedol i roi hwb i’w amddiffyniad heb drefnu apwyntiad.

Gall plant cyn oed ysgol dderbyn eu brechlyn ffliw ar ffurf chwistrell trwyn di boen yn rhad ac am ddim yn eu meddygfa. Gall plant oedran ysgol dderbyn eu brechlyn ffliw ar ffurf chwistrell trwyn di-boen yn rhad ac am ddim yn un o'r clinigau brechu ffliw a gynhelir yn yr ysgol, neu yn eu meddygfa.

Gall oedolion 16 oed a throsodd dderbyn eu brechlyn ffliw am ddim yn eu meddygfa, neu yn un o’r fferyllfeydd cymunedol niferus sy’n cynnig gwasanaeth brechu ar draws Gogledd Cymru. Efallai y bydd angen i chi wneud apwyntiad. Os byddwch yn derbyn gwahoddiad i gael eich brechlyn ffliw am ddim, manteisiwch ar y cyfle.

 

COVID-19

Er mwyn helpu i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed, bydd unrhyw un rhwng chwe mis a 64 oed sydd â chyflwr iechyd hirdymor sy’n eu rhoi mewn mwy o berygl o niwed yn cael cynnig pigiad atgyfnerthu rhag COVID-19 yr Hydref.

Mae cyflyrau iechyd cymwys yn cynnwys cyflyrau anadlol (asthma, COPD), clefyd y galon, clefyd yr arennau (cam 3, 4 neu 5), clefyd yr afu, clefyd niwrolegol (Parkinson's, MND), diabetes, epilepsi, system imiwnedd wannach o ganlyniad i driniaeth ar gyfer e.e. HIV /AIDS a chanser, asplenia neu gamweithrediad y ddueg, a gordewdra (BMI o 40+).

Gall unrhyw un sy'n gymwys ar gyfer pigiad atgyfnerthu rhag COVID-19 yr Hydref alw heibio un o'n canolfannau brechu er mwyn cynyddu eu hamddiffyniad rhag y firws y gaeaf hwn. Ceir manylion am lleoliadau, dyddiadau ac amseroedd ein clinigau yma.

Os ydych eisoes wedi derbyn llythyr gyda manylion eich apwyntiad ar gyfer y brechlyn atgyfnerthu, gallwch gadw at y dyddiad a’r amser yn eich llythyr neu cewch alw heibio i ganolfan frechu cyn hynny. Os dewiswch alw heibio, nid oes angen cysylltu â ni i ganslo eich apwyntiad.