I gefnogi eu hanghenion, dylai pobl â salwch meddwl neu anabledd dysgu ymweld â'u meddygfa i gael eu brechlyn ffliw rhad ac am ddim.
Efallai y bydd angen i chi wneud apwyntiad. Os byddwch yn derbyn gwahoddiad i gael eich brechlyn ffliw am ddim, manteisiwch ar y cyfle.
O 2 Ionawr ymlaen, gall pob oedolyn sy’n gymwys ar gyfer y brechiad ffliw alw heibio i un o’n clinigau brechu cymunedol i roi hwb i’w amddiffyniad heb drefnu apwyntiad.
Er mwyn helpu i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed, bydd pobl ag anabledd dysgu neu salwch meddwl yn cael cynnig pigiad atgyfnerthu rhag COVID-19 yr Hydref.
Gall unrhyw un sy'n gymwys ar gyfer pigiad atgyfnerthu rhag COVID-19 yr Hydref alw heibio un o'n canolfannau brechu er mwyn cynyddu eu hamddiffyniad rhag y firws y gaeaf hwn. Ceir manylion am lleoliadau, dyddiadau ac amseroedd ein clinigau yma.
Os ydych eisoes wedi derbyn llythyr gyda manylion eich apwyntiad ar gyfer y brechlyn atgyfnerthu, gallwch gadw at y dyddiad a’r amser yn eich llythyr neu cewch alw heibio i ganolfan frechu cyn hynny. Os dewiswch alw heibio, nid oes angen cysylltu â ni i ganslo eich apwyntiad.