Er mwyn helpu i amddiffyn plant a phobl sy'n fwy agored i niwed yn y gymuned rhag y risgiau sy’n gysylltiedig â’r ffliw, bydd brechlynnau yn cael eu cynnig i bob plentyn rhwng dwy ac 16 oed.
Bydd plant dwy neu dair oed (ar 31 Awst 2023) yn cael cynnig brechlyn ffliw ar ffurf chwistrell trwyn di-boen yn eu meddygfa.
Bydd plant rhwng chwe mis a dwy flwydd oed sydd â chyflwr iechyd cronig hefyd yn cael cynnig brechlyn ffliw am ddim yn eu meddygfa. Bydd y grŵp hwn hefyd yn cael ei wahodd am frechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19 yr Hydref – gweler yr adran Pobl (gan gynnwys plant) â chyflwr iechyd hirdymor isod.
Pan fyddwch yn derbyn gwahoddiad i'ch plentyn gael ei frechu, manteisiwch ar y cyfle.
Bydd pob plentyn ysgol (o'r dosbarth derbyn i Flwyddyn 11) yn cael cynnig brechlyn ffliw ar ffurf chwistrell trwyn di-boen yn yr ysgol yn ystod tymor yr hydref. Bydd brechlynnau ffliw yn cael eu darparu gan dîm imiwneiddio ysgolion neu dimau brechu o’r bwrdd iechyd mewn clinigau arbennig a gynhelir yn ystod oriau ysgol.
Cadwch lygad am fwy o wybodaeth am glinigau brechu rhag y ffliw yn ysgol eich plentyn a sicrhewch eich bod yn llenwi ffurflen ganiatâd ar gyfer eich plentyn.
Nid yw'n rhy hwyr i atgyfnerthu amddiffyniad eich plentyn rhag y ffliw - mae clinigau'n dal i gael eu cynnal mewn rhai ysgolion. Os na chafodd eich plentyn ei frechu yn yr ysgol, cadwch lygad am glinigau yn eich ardal chi.