Neidio i'r prif gynnwy

Bod yn fywiog

Mae cadw'n heini, beth bynnag fo'ch oedran neu'ch gallu, yn dod â manteision gwirioneddol i'ch iechyd corfforol a'ch lles meddyliol. ​ Gall gweithgareddau fel cerdded hefyd annog rhyngweithio cymdeithasol a hybu iechyd meddwl da. ​

Mae tystiolaeth yn awgrymu bod gweithgarwch corfforol yn newid cemeg yr ymennydd i ryddhau ‘hormonau hapus’ a all yn ei dro wneud i chi deimlo’n fwy positif. Darganfyddwch weithgaredd corfforol sy'n addas i'ch lefel symudedd a ffitrwydd gan fod hyn yn ei gwneud yn fwy tebygol y byddwch yn parhau i wneud y gweithgaredd corfforol yn rheolaidd a chael hwyl wrth wneud hynny hefyd. ​

Mae gan Actif Gogledd Cymru a Dewis Cymru wybodaeth ddefnyddiol a chyfleoedd i helpu pobl i ddod yn fwy actif. Mae'r rhain ar gyfer pob grŵp oedran, gan gynnwys chwaraeon ar gyfer pobl anabl. ​ 

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhannu manteision Bod yn Actif sy'n cynnwys offer, cyngor a syniadau i'ch helpu chi a'ch teulu i symud. ​