Neidio i'r prif gynnwy

Taith Gwirfoddolwyr Cyhoeddus COVID-19: Stori George

Gan George Manley, Gwirfoddolwr

Ym mis Mawrth 2020, roeddwn yn barod ac yn awchu i fynd yn hyfforddwr awyr agored ac arwain 14 o gleientiaid cyffrous ar daith fythgofiadwy i deyrnas Nepal, ac i gerdded trwy'r mynyddoedd ysblennydd yn yr Himalaya; ychydig oedden ni'n gwybod y byddem o fewn 3 wythnos yng nghanol cyfnod na allem fyth bod wedi ei ddychmygu, ac y byddem yn wynebu her a chaledi anhygoel Pandemig COVID-19 ledled y byd.

Byddem yn wynebu Cyfnodau Clo digynsail, yn gorfod aros y tu fewn a chysgodi, yn enwedig os oeddech yn agored i niwed a bod gennych gyflyrau iechyd sylfaenol. Arweiniodd hyn at effaith enfawr ar ein gwaith a'n hiechyd meddwl wrth orfod hunan-ynysu, a dioddef trasiedi a thrallod anhygoel gyda’r gofid o golli cymaint o anwyliaid i COVID-19.

Wrth i’r pandemig ddatblygu o flaen ein llygaid, ac ar ôl clywed yr alwad genedlaethol am wirfoddolwyr, roeddwn i'n meddwl bod yn rhaid fod rhywbeth y gallwn ei wneud i helpu gan fy mod mewn sefyllfa ffodus ac mewn iechyd da i roi rhywbeth yn ôl i'r gymuned, yn enwedig gan fy mod wedi bod yn cynnal gweithgareddau awyr agored / yn y gwyllt a bod gen i sgiliau cymorth cyntaf a chymwysterau meddygol y gellid eu defnyddio i gefnogi Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC). Helpodd ffrind da iawn sy'n gweithio i BIPBC fi a’m rhoi mewn cysylltiad â’r Gweithlu Gwirfoddolwyr Covid.

Fel llawer o wirfoddolwyr, mae fy nhaith wirfoddoli wedi bod yn werthfawr iawn, gan gwrdd â llawer o wirfoddolwyr rhyfeddol a staff BIPBC sydd wedi bod yn bleser enfawr. Mae gwirfoddoli wedi bod yn werth chweil, gan ei fod wedi rhoi cyfle i lawer ohonom gynnig ein sgiliau gwaith a bywyd defnyddiol. Agorodd y drws i lawer ohonom gyfrannu mewn llu o wahanol ffyrdd, a helpu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn ein cymunedau. 

Bûm yn helpu mewn sawl ffordd; cyfarfod a chyfarch yng Nghanolfan Feddygol Bwcle, helpu mewn gwahanol Ganolfannau Brechu a chymryd gwahanol rolau yn y broses o frechu, arwain cleifion drwy'r broses o gael eu brechu, llenwi ffurflenni cofrestru, helpu cleifion yn y ciwiau hir anochel yn nhywydd cyfnewidiol Prydain , glanhau a diheintio’r holl seddi'n barhaus, dadbacio a storio PPE hanfodol brechwyr, gofalu am gleifion yn yr ardaloedd aros 15 munud ac ateb cwestiynau gan gleifion â phryderon am y brechlyn.

Er syndod i mi, cefais hefyd gyfle i ddefnyddio fy sgiliau dylunio fel cyn-ddarlunydd proffesiynol drwy helpu i ddylunio arwyddion cyfeirio ac arwyddion gwybodaeth a baneri ‘Pop-up’ i helpu i fonitro'r niferoedd cynyddol ac anhygoel o frechlynnau a weinyddwyd gan BIPBC.

Mwynheais y broses o ddylunio a chreu’r baneri hyn ac wedyn eu danfon i gael eu hargraffu, ac roedd yn wych eu gweld yn cael eu dangos yn y pendraw; roedd mor braf gweld cyfansymiau’r brechlynnau’n tyfu. Ar adeg ysgrifennu’r darn hwn roedd Glannau Dyfrdwy wedi brechu dros 70,000 ac roedd Canolfan Catrin Finch wedi cyrraedd dros 34,000. Erbyn cyhoeddi hwn bydd y ffigyrau wedi llamu filoedd yn rhagor eto!

Mae gwirfoddoli i BIPBC i mi a nifer o rai eraill, yn ystod y cyfnod ofnadwy yma wedi bod yn ffordd wych o allu cyfrannu mewn ffordd gadarnhaol a buddiol i’n cymunedau a gwneud gwahaniaeth i gleifion.

Mae gallu helpu yn fraint ac mae bod yn rhan o rywbeth mwy yn rhoi ymdeimlad gwych o gyflawniad, hapusrwydd a boddhad ichi. Mae wedi bod yn un o'r teithiau mwyaf anhygoel yr euthum arni hyd yma, a bu’n fraint cael bod yn rhan o ymdrech mor bwysig, lle mae pawb, yn wirfoddolwyr a staff fel ei gilydd yn gweithio mor galed, gan roi oriau hir yn yr ymdrech genedlaethol hon i goncro COVID-19.

Yn anad dim, mae rhoi ein hamser yn helpu i wella bywydau pobl a gobeithio y byddwn yn dileu Covid 19 yn y pendraw fel y gall pob un ohonom ailafael mewn bywyd normal ac fel y gallaf innau arwain fy nghleientiaid maes o law ar eu taith fythgofiadwy i Wersyll Godrau Everest.