Neidio i'r prif gynnwy

Wythnos Gwirfoddolwyr 2021

Mae Wythnos Genedlaethol y Gwirfoddolwyr yn ddathliad blynyddol ledled y DU o’r holl wirfoddolwyr, sy’n digwydd bob blwyddyn rhwng 1 - 7 Mehefin.  Mae eleni yn nodi 37 mlynedd o gydnabod gwirfoddolwyr yn ystod yr wythnos arbennig hon ym mis Mehefin.

Yn ystod y Pandemig, mae gwirfoddolwyr o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi addasu i rolau eraill ac wedi cefnogi’i gilydd drwy sawl her.  Rydym yn ddiolchgar iawn i bob un ohonoch chi!

Mae gwirfoddolwyr i’w cael ym mhob rhan o fywyd sy’n rhoi eu hamser, egni a’u sgiliau, ac yn barod i roi ychydig oriau'r mis i sawl awr bob wythnos er mwyn eu cymuned.

Mae gwirfoddolwyr wastad wedi chwarae rôl hanfodol i gefnogi darpariaeth iechyd a lles cymdeithasol ar draws ein holl Ysbytai yng ngogledd Cymru.  Mae eu cyfraniadau yn cyfoethogi ac ymestyn yr ystod o gefnogaeth a ddarperir i ddefnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr a theuluoedd trwy ddarparu cymorth a chefnogaeth ymarferol i fwyhau profiad y claf.  Anogir gwirfoddolwyr i ymgysylltu gyda staff a dod yn ‘rhan o’r tîm’ gan gwblhau yn hytrach nac ychwanegu at y tîm gyda’u cyfraniad unigryw, gan ychwanegu gwerth i’r profiad.  

Byddwn yn cydnabod ac yn codi ymwybyddiaeth o wirfoddolwyr trwy gydol wythnos y gwirfoddolwyr a thu hwnt.  Fel rydym yn parhau i symud ymlaen gyda chyfleoedd gwirfoddoli ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, o dan ganllawiau diogelwch, rydym yn rhagweld gorchmynion newydd ar gyfer gwirfoddolwyr o’n hardaloedd clinigol fel mae’r buddion o weithio gyda gwirfoddolwyr yn cael ei ddeall yn well, ei gofleidio a’i werthfawrogi.

Eto, diolch mawr i’r holl wirfoddolwyr am eich amser a’r gefnogaeth yr ydych wedi’i roi ac yn parhau i’w roi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.