Neidio i'r prif gynnwy

Neges diolch i'n gwirfoddolwyr

Neges o ddiolch gan Karen Garston, Rheolwr Gweinyddol Canolfan Iechyd Plant Wrecsam

Mae'r 14 mis diwethaf wedi bod yn gyfnod heriol i bawb, gan gynnwys y Staff a’r Plant a Phobl Ifanc a welwyd yng Nghanolfan Iechyd Plant Wrecsam. Synnwyd pawb gan  COVID-19 a gorfodwyd clinigau i gau a chanslo apwyntiadau arferol ar fyr rybudd. Roedd hyn yn golygu bod y rhan fwyaf o'n hapwyntiadau arferol yn gorfod cael eu gohirio neu eu cynnal yn rhithiol ac roeddem wedi ein cyfyngu i ddim ond apwyntiadau brys wyneb yn wyneb am gyfnod, nes y gallem ailddechrau'r holl wasanaethau yn ddiogel.

Yn ystod y cyfnod hwn roeddem yn wynebu heriau nad oeddem erioed wedi'u hwynebu o'r blaen, gan gynnwys rheoli cleifion, ymwelwyr a staff wrth ddod i mewn ac allan o'r adeilad yn ogystal â dilyn y canllawiau a'r cyfyngiadau newydd Iechyd a Diogelwch. Ym mis Awst 2020, buom yn ddigon ffodus i gael help gan ein Gwirfoddolwyr. Roedd cymorth yr unigolion yma’n anhygoel ac yn ein galluogi i ailgychwyn ein clinigau yn brydlon ac yn ddiogel heb orfod cwtogi’n gallu clinigol a gweinyddol yr oedd mawr ei angen. Helpodd y gwirfoddolwyr ni i sgrinio ein cleifion wrth iddynt gyrraedd, cyn iddynt ddod mewn i'r adeilad ac fe wnaethant ein helpu hefyd gyda hebrwng cleifion i ac o ystafelloedd clinig ac allan o'r adeilad.

Mae’r diolch i'n gwirfoddolwyr am eu cefnogaeth yn enfawr. Mae eu hymrwymiad anhygoel wedi bod yn amhrisiadwy.

Hoffem ddiolch i bob un ohonynt am eu cymorth - a rhoi iddynt y gydnabyddiaeth y maent yn ei haeddu. Maen nhw’n arwyr go iawn yng ngolwg y GIG.