Mae dros 400,000 o bobl yng Ngogledd Cymru yn awr wedi cael o leiaf un dos o'r brechlyn COVID-19 ac rydym yn parhau i wneud cynnydd da wrth i ni edrych ymlaen at gynnig y brechlyn i'r holl oedolion cymwys cyn ddiwedd mis Gorffennaf.
Cynnydd o ran brechu o 3 Mai 2021:
Canran y bobl mewn Grwpiau Blaenoriaeth sydd wedi derbyn dos cyntaf:
Mae dadansoddiad manwl o Raglen Frechu COVID-19 yng Ngogledd Cymru ar gael ar ein gwefan: Ystadegau Brechu - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)
Pwy rydym yn eu brechu ar hyn o bryd a sut fyddwn yn cysylltu â nhw
Yr wythnos hon, rydym yn parhau i gynnig brechiadau i'r grwpiau canlynol, a chaiff gwahoddiadau eu hanfon trwy lythyr, neges destun a galwad ffôn:
Cofiwch fod y brechlyn COVID-19 ond ar gael drwy'r GIG ac mae'n rhad ac am ddim. Ni fyddwn BYTH yn gofyn i chi am gopïau o'ch dogfennau personol neu eich manylion banc i drefnu apwyntiad.
Os byddwch yn cael e-bost, neges destun neu alwad ffôn yn honni ei fod o'r GIG ac yn gofyn i chi roi manylion ariannol, scam yw hwn.
Apwyntiadau a Fethir
Rydym yn gweld problem gynyddol gyda phobl yn methu apwyntiadau a oedd wedi'u trefnu iddynt.
Nid ydym byth yn taflyd brechlynnau, ond mae bob apwyntiad a fethir yn gwastraffu adnoddau hanfodol y GIG ac yn creu heriau logistaidd sylweddol i'n staff, sydd yn cael eu tynnu oddi wrth ddyletswyddau eraill i gysylltu â phobl sydd nesaf ar y rhestr aros ar fyr rybudd i lenwi slotiau apwyntiad.
Tra bod nifer fechan o'r apwyntiadau a fethir hyn o ganlyniad i ddyblygu apwyntiadau, manylion cyswllt anghywir neu lythyrau apwyntiadau yn cyrraedd yn hwyr, gwyddom yn y mwyafrif helaeth o achosion, maent oherwydd bod pobl wedi methu rhoi gwybod i ni na allent fynychu eu hapwyntiad neu nad ydynt eisiau cael eu brechu.
Rydym yn annog pobl i:
Rydym hefyd yn annog cyflogwyr ar draws y rhanbarth i gydymdeimlo â cheisiadau gan eu staff am amser i ffwrdd i fynychu eu hapwyntiadau brechlyn.
Mae brechiad yn darparu'r amddiffyniad gorau rhag bod yn wael iawn gyda COVID-19 a dyma'r trywydd gorau allan o'r pandemig hwn.
Apwyntiadau ail ddos
Mae'n bwysig bod pobl yn derbyn y ddau ddos o'r brechlyn er mwyn diogelu gymaint â phosibl rhag COVID-19.
Yn unol â chyngor gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), mae bwlch o 11 wythnos ar hyn o bryd rhwng rhoi dosiau cyntaf ac ail ddosiau o'r brechlyn rhag COVID-19.
Gofynnwn i bobl fod yn amyneddgar wrth aros am eu gwahoddiad i gael ail ddos. Fodd bynnag, dylai unrhyw un sydd wedi bod yn aros mwy na 11 wythnos am eu hapwyntiad ail ddos gysylltu â'r canlynol:
Gofynnwn i chi fod yn amyneddgar gan ffonio dim ond os oes 11 wythnos wedi mynd heibio ers i chi gael eich dos cyntaf ac nad ydych wedi derbyn apwyntiad am eich ail ddos eto.
Cyngor ar gyfer y rhai nad ydynt wedi cael gwahoddiad hyd yma.
Gofynnir i bobl yn y grwpiau canlynol nad ydynt wedi cael apwyntiad hyd yma i gwblhau ein ffurflen ar-lein. Yna byddwn yn anfon llythyr gwahoddiad yn y post.
Dylech gwblhau’r ffurflen os ydych:
Os ydych rhwng 18-39 oed, a fyddech cystal â bod yn amyneddgar – ni ddylech fod yn aros yn rhy hir rŵan.
Canolfan Gyswllt Brechiadau COVID-19
Helpwch ni i’ch helpu chi drwy ond ffonio ein Canolfan Gyswllt Brechiadau COVID-19 am y rhesymau canlynol:
Rhif ffôn y Ganolfan Gyswllt Brechiadau COVID-19 yw 03000 840004 ac mae’r llinellau ffôn ar agor dydd Llun i ddydd Gwener, 8am - 6pm a dydd Sadwrn a dydd Sul 9am - 1pm.
Arweiniad JCVI
Mae’r cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) yn parhau i adolygu data ar lefel y risg sy’n gysylltiedig â chynnig y brechlyn Oxford-AstraZeneca ac fe allant ddiweddaru eu cyngor yn y diwrnodau nesaf.
Yn y cyfamser, rydym wedi rhoi cyngor i’n holl glinigwyr a phartneriaid ym maes gofal cychwynnol i barhau i ddilyn arweiniad cenedlaethol ar weinyddu brechiadau COVID-19 a hynny wrth gynnal eu dyletswydd didwylledd i gleifion drwy drafod y mater gyda nhw pan maent yn dod am eu hapwyntiad.
Peilot cynllun brechu drwy ffenestr y car
Yr wythnos diwethaf, cynhaliwyd peilot cyntaf llwyddiannus y clinig brechu Oxford AstraZeneca drwy ffenestr y car, ym Mhreswylfa yn Yr Wyddgrug.
Rydym ar hyn o bryd yn archwilio sut y gellir cyflwyno clinigau drwy ffenestr y car mewn mannau eraill yng Ngogledd Cymru dros yr wythnosau nesaf.
Darparu brechiadau yn agosach at y cartref
Gan weithio gyda’n cydweithwyr clwstwr Meddygon Teulu, rydym wedi dechrau cyflwyno clinigau brechu ychwanegol er mwyn cynyddu’r hyblygrwydd a chynnig y brechlyn yn agosach at gartrefi pobl.
Pan fydd cyfle i bobl gysylltu â ni i drefnu apwyntiad yn un o’r clinigau hyn, bydd hyn yn cael ei gyfathrebu ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Gwybodaeth bellach ar Raglen Frechu COVID-19 Gogledd Cymru
Am fwy o wybodaeth ar Raglen Frechu COVID-19 Gogledd Cymru, gan gynnwys atebion i Gwestiynau Cyffredin, edrychwch ar ein gwefan: Gwybodaeth Brechlyn COVID-19 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)
Gallwch hefyd weld gwybodaeth ddiogel ar ddiogelwch a chymhwystra brechlyn ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yma: Ynglŷn â'r brechlyn - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)