Neidio i'r prif gynnwy

Eisioes yn cael cefnogaeth

27/11/20
A oes pethau y gallaf i eu gwneud i deimlo'n well?

Mae pethau'n rhyfedd a gwahanol iawn ar hyn o bryd ac weithiau gall deimlo’n llethol ac anodd. Efallai y byddwch yn teimlo'n bryderus neu'n ansicr, a hyd yn oed yn drist ar brydiau. Mae'n bwysig cofio nad ydych chi ar eich pen eich hun, ac mae bob un ohonom yn teimlo fel hyn weithiau, yn enwedig pan mae llawer o bethau’n newid a ninnau’n methu gwneud hyn y pethau y byddwn fel arfer yn eu gwneud. Pan mae’r teimladau hyn yn gwrthod diflannu ac yn digwydd yn aml gall fod angen mwy o gymorth arnoch (Mae rhagor o wybodaeth yng Nghwestiwn 2 a Chwestiwn 3).

Er mwyn helpu gyda'r teimladau hyn ac aros yn bositif ac yn iach, gallai rhai o'r pethau isod helpu.

Cadwch mewn cysylltiad: Mae'n bwysig iawn cadw mewn cysylltiad â'r rhai rydych chi'n eu caru ac yn ymddiried ynddynt. Gall fod yn anodd gyda'r cyfyngiadau sy’n rhwystro pobl rhag cyfarfod wyneb yn wyneb, ond gall sgwrs fer dros y ffôn neu alwad rithiol eich helpu chi i deimlo'n fwy cysylltiedig. Mae gallu siarad trwy'ch teimladau a chael teimlad o normalrwydd yn gallu gwneud ichi deimlo'n well. Mae llawer o blant a phobl ifanc heb gysylltiad rhyngrwyd neu ffôn symudol wedi dechrau ysgrifennu llythyrau i’w hanwyliaid neu wedi dod yn ffrindiau trwy lythyr (pen pals), ac mae'n ffordd wych o gadw mewn cysylltiad ac yn rhywbeth y gall aelod o'ch teulu eich helpu i’w wneud.

Weithiau mae'n hawdd anghofio y gall cymorth fod yn nes atoch nag y tybiwch, ac mae bod gartref mwy gyda’ch teulu / gofalwyr / gwarcheidwaid yn rhoi mwy o amser i siarad a threulio amser gyda'ch gilydd. Rydyn ni i gyd eisiau dianc oddi wrth y byd tu allan weithiau, ond gall sgwrsio gyda'r bobl rydych chi'n byw gyda nhw bob dydd wneud ichi deimlo'n fwy positif ac yn llai ar eich pen eich hun. Mae bod yn onest am eich teimladau gyda’ch teulu / gofalwyr/ gwarcheidwaid a thrafod sut y gallwch chi fod yn fwy cysylltiedig â'r bobl sy'n bwysig i chi yn gam cyntaf gwych.

Pwysig: Weithiau nid yw'r pethau y credwn eu bod yn ein cadw ni mewn cysylltiad ag eraill bob amser yn llesol inni. Gall treulio llawer iawn o amser ar gyfryngau cymdeithasol (social media) wneud inni deimlo’n ddrwg amdanom ein hunain. Er y gall fod yn ffordd dda o gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu, mae'n bwysig cofio nad yw pob un o'r delweddau a gwybodaeth a gyflwynir yn gywir nac yn adlewyrchiad cywir o fywydau pobl go iawn. Os byddwch chi'n dechrau teimlo fod eich hwyliau'n newid pan fyddwch chi'n defnyddio cyfryngau cymdeithasol, gallai fod yn syniad da cymryd hoe am ychydig ddyddiau a gwneud rhai o'r pethau eraill a awgrymir isod.

Cadwch yn egnïol: Mae ymchwil gwyddonol yn dweud wrthym mai un o'r ffyrdd gorau i deimlo'n dda yw gwneud ychydig o ymarfer corff. Nid yw ymarfer corff bob amser yn golygu cystadlu mewn campau, er bod hynny'n ffordd wych o deimlo'n dda. Weithiau gall mynd am dro neu loncian, chwarae mewn cae neu yn y parc, gwneud gweithgaredd corfforol adref, nofio, sgipio, rhedeg, dawnsio ac ati eich helpu. Gall gwneud ychydig bach bob dydd wella eich hwyliau a'ch hyder.

Mae'n dda clywed bod chwaraeon wedi'u trefnu dan do yn cychwyn yn ôl, a gallwch holi pa glybiau chwaraeon sydd ar agor yn eich ardal chi ac os oes unrhyw weithgareddau am ddim y gallwch chi gymryd rhan ynddynt trwy gysylltu â'ch Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol.

Daliwch i ddysgu: Ffordd dda o gadw ein meddyliau yn weithgar mewn ffordd bositif yw rhoi cynnig ar rywbeth newydd neu ddysgu sgil newydd. Mae bod gartref am ragor o amser yn gyfle da i wneud hyn. Mae llawer o bobl ifanc yn cymryd mwy o amser i ddarllen, arlunio / paentio / gwaith crefft, coginio / pobi, rhoi cynnig ar chwarae offeryn newydd neu ymarfer canu, dysgu iaith wahanol, ymuno â chlybiau ar-lein a grwpiau eraill ac ati.

Os oes rhywbeth rydych chi'n meddwl y byddech chi'n ei fwynhau, mae’n amser da i roi cynnig arni. Os oes angen rhywfaint o ysbrydoliaeth a syniadau arnoch chi, mae'n dda siarad am hynny gyda theulu a ffrindiau. Gall ysgolion a cholegau gynnig gwybodaeth a syniadau defnyddiol hefyd. Ac mae llawer o wybodaeth ar-lein.

Helpu eraill: Ar hyn o bryd, efallai yn fwy nag erioed, mae cyfleoedd i gefnogi pobl eraill. Mae ymchwil gwyddonol yn dweud wrthym y gall helpu rhywun arall newid sut rydyn ni'n teimlo amdanon ni'n hunain a gwella ein hwyliau a'n hyder. Mae llawer o elusennau a sefydliadau a fyddai wrth eu bodd yn derbyn eich cefnogaeth drwy wirfoddoli, a gallwch ganfod pa gyfleoedd sydd ar gael trwy holi eich Cyngor Gwirfoddoli Lleol.

Weithiau, y pethau lleiaf sy'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf. Gall cymryd yr amser i helpu o amgylch y tŷ, gwneud rhywbeth caredig, dweud diolch neu wrando ar ffrindiau a theulu / gofalwyr gael effaith gadarnhaol arnoch chi a'r person arall.

Cymrwch sylw: Ffordd dda o fod yn fwy ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd gyda'ch emosiynau yw meddwl am eich meddyliau a'ch teimladau wrth iddynt ddigwydd a chymryd sylw o'r pethau o'ch cwmpas pan fydd unrhyw newidiadau. Meddyliwch am yr hyn a welwch, a glywch, a aroglwch ac a flaswch o’ch cwmpas a sut yr ydych yn teimlo yn y foment honno. Mae llawer o bobl ifanc yn cael gwell hwyl ar wneud hyn mewn lle tawel a digynnwrf. Bydd rhai hefyd yn ceisio anadlu'n araf ac yn ddigynnwrf, â'u llygaid ar gau, i'w helpu i ymlacio. 

Gall cymryd yr amser hwn ein helpu i beidio â meddwl gormod am rai o'r pethau sy’n digwydd yn y byd ehangach o'n cwmpas, a gall ein helpu i ddelio â phryder a straen. Os hoffech ddysgu mwy, ewch i’r wefan www.nhs.uk/conditions/stress-anxiety-depression/mindfulness/

27/11/20
Sut mae dweud wrth rywun fy mod mewn trafferth ac angen cefnogaeth?

Mae trafod sut mae rydych yn teimlo gyda rhywun yr ydych yn ymddiried ynddyn nhw yn aml yn gallu helpu i weld pethau'n wahanol. Efallai fod ganddyn nhw syniadau am sut i'ch helpu chi i newid pethau yn eich bywyd sy'n eich poeni. Unwaith y byddwch chi'n siarad â rhywun a hwythau’n gwybod beth rydych chi'n mynd drwyddo, gallant fod yno i’ch helpu a chynnig cefnogaeth barhaus.

Mae rhoi pethau mewn geiriau weithiau'n helpu. Mae'n dda dweud beth sydd ar eich meddwl. Gallai siarad â rhywun wneud i chi deimlo nad oes raid ichi ddelio gyda phethau ar eich pen eich hun a gwneud i bethau deimlo'n haws delio gyda nhw.

 

Rhai pethau i’w hystyried:

  • Dewiswch rywun rydych yn teimlo'n ddiogel gyda nhw. (Gall fod yn oedolyn yr ydych yn ymddiried ynddo, yn athro, meddyg teulu, rhieni / gofalwr, hyfforddwr chwaraeon, gweithiwr ieuenctid, gweithiwr cymdeithasol, rhiant eich ffrind, cwnselydd neu nyrs ysgol, cymydog ac ati)
  • Cynlluniwch yr hyn rydych chi am ei ddweud
  • Ceisiwch ddewis amser i siarad â nhw pan nad ydyn nhw'n brysur yn gwneud rhywbeth arall
  • Cofiwch y gallwch chi ddweud cymaint neu gyn lleied ag y dymunwch. Rhannwch yr hyn rydych chi'n teimlo sy'n iawn ar y pryd.
  • Gallwch ofyn iddynt ar ddechrau'r sgwrs i gadw'r hyn rydych chi'n ei ddweud yn breifat a pheidio â'i rannu.

 

Sut i ddechrau sgwrs

  • Rydw i eisiau siarad â chi am sut rydw i'n teimlo "
  • "Mae hyn yn anodd i mi siarad amdano, ond rydw i wir eisiau dweud wrthoch chi sut rydw i wedi bod yn teimlo."
  • Mae angen rhywfaint o gyngor arna’ i am rywbeth sy’n fy mhoeni.”

Os ydych chi'n dal i fod yn ansicr sut i ddechrau sgwrs, mae llawer o bethau y gallwch chi eu gwneud:

  • Ysgrifennu llythyr
  • Sôn am rywbeth arall yn gyntaf
  • Sôn am ffrind sy'n profi rhywbeth tebyg i chi yn gyntaf.
27/11/20
Rwy'n teimlo fy mod i'n cael trafferth gyda fy iechyd meddwl, ble alla i gael cefnogaeth?

Os ydych chi'n mynd trwy gyfnod anodd neu os ydych chi'n poeni am sut rydych chi'n teimlo, rydyn ni'n deall y gall hyn fod yn frawychus ac yn ofidus iawn. Mae’n bwysig sylweddoli nad ydych chi ar eich pen eich hun, a bod llawer o lefydd y gallwch chi gael gwybodaeth a chefnogaeth dda.

Cyngor: Os ydych yn teimlo'n barod, siaradwch gydag oedolyn dibynadwy neu ffrind agos am sut rydych yn teimlo, ac yn aml iawn maent yn gallu eich helpu i ddod o hyd i gefnogaeth. Os ydych yn yr ysgol neu'r coleg, bydd cymorth cyfrinachol ar gael fel arfer, neu gymorth i gael mynediad at wasanaethau. Gallwch hefyd gael gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth trwy Wasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd eich Awdurdod Lleol.

Mae'r gefnogaeth y gallwch ei chael yn amrywio o ardal i ardal, yn dibynnu ar ble rydych yn byw, ond fe fydd Gwasanaeth CAMHS yn eich Sir leol. Y cam cyntaf tuag at gael help gan CAMHS fel arfer yw eich bod yn cael eich atgyfeirio am asesiad gan CAMHS. Gall yr atgyfeiriad (referral) hwn ddod gan eich rhieni / gofalwyr, neu chi eich hun os ydych chi'n ddigon hen (yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw). Mae gweithwyr proffesiynol fel athro neu feddyg teulu (bydd y mwyafrif o feddygfeydd yn cynnig apwyntiadau ffôn) hefyd yn gallu atgyfeirio mewn rhai ardaloedd. Os ydych chi'n cael eich cefnogi gan y gwasanaethau cymdeithasol, tîm ieuenctid, neu wasanaeth yn eich ysgol, efallai y byddan nhw'n gallu eich cyfeirio chi hefyd.

Os nad ydych chi'n barod i siarad â rhywun rydych chi'n ei adnabod neu os ydych yn hunanynysu peidiwch â phoeni. Gallwch o hyd gael gafael ar linellau cymorth cyfrinachol ac adnoddau ar-lein defnyddiol. Mae www.dewis.wales yn lle da i ddod o hyd i wasanaethau yn eich ardal chi. Isod mae linciau defnyddiol eraill at wasanaethau sy'n gallu cynnig cymorth:

 

 

HWB CYMRU: Gweler yma chwe rhestr chwarae i’ch arwain chi at ystod eang o adnoddau ar-lein i’ch helpu chi drwy’r cyfnod clo a thu hwnt. Ym mhob un o’r rhestr chwarae, fe welwch wefannau a ap hunangymorth, llinellau cymorth a mwy, sydd yma i gefnogi eich iechyd meddwl a’ch lles.

https://hwb.gov.wales/repository/discovery/resource/e53adf44-76cb-4635-b6c2-62116bb63a9a/cy?_ga=2.151518460.459291157.1604913013-1431377124.1568902089

 

CALM HARM: Ap Symudol i helpu pobl ifanc yn eu harddegau i wrthsefyll neu reoli'r ysfa i hunan-niweidio (Am ddim)

 

CHILDLINE: www.nspcc.org.uk /0800 1111

HARMLESS: Yn cynnig cyngor a gwybodaeth am bobl ifanc a allai fod yn hunan-niweidio neu brofi meddyliau o'r fath. www.harmless.org.uk

YOUNGMINDS: www.youngminds.org.uk/

0808 802 5544

SELF HARM UK: Mae'n cynnig lle ar-lein i siarad a gofyn cwestiynau am bryderon yn eu bywyd. www.selfharm.co.uk

RETHINK MENTAL ILLNESS: www.rethink.org.uk/ 0300 5000 927

National Self Harm Network: Mae NSHN yn fforwm ar-lein sy'n caniatáu ichi siarad â phobl eraill mewn amgylchedd diogel, dan reolaeth. www.nshn.co.uk

THE MIX: 0808 808 4994

PAPYRUS: Papyrus HOPElineuk 0800 068 41 41 www.papyrus.org.uk

YOUNGMINDS CRISIS MESSENGER: Tecstiwch YM i 85258 am gyngor 24/7 am ddim 

HEADSPACE: Ap ymwybyddiaeth ofalgar (mindfulness) gyda llawer o wahanol raglenni i gefnogi iechyd meddwl

SANE: Mae Saneline yn gweithredu o 4.30pm i 10.30pm bob dydd ar gyfer cymorth iechyd meddwl 0300 304 7000

WELLMIND: Datblygwyd yr Ap hwn gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (NHS) ac mae'n helpu gyda symptomau pryder ac iselder. Mae'n ffordd wych o gadw golwg ar eich meddyliau a'ch teimladau.

CATCH THAT THOUGHT: Mae'r ap hwn yn wych i fonitro meddyliau ac emosiynau anodd , pan fyddwch chi'n eu profi ac i gofnodi ym mhle yr ydych chi pan gewch y meddyliau hynny.

THE STRESS AND ANXIETY CAMPANION: Mae'r ap yn annog meddwl yn bositif trwy ei broses Therapi Ymddygiad Gwybyddol (Cognitive Behaviour Therapy – CBT) symlach ac yn eich helpu i ddeall sbardunau.

THRIVE: Mae'r ap hwn yn eich helpu i gasglu'ch meddyliau a deall eich emosiynau.

MEIC: MEIC yw'r gwasanaeth llinell gymorth i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. Gallwch ganfod beth sy'n digwydd yn eich ardal leol i helpu i ddelio â sefyllfaoedd anodd, a bydd Meic yn gwrando hyd yn oed pan na fydd unrhyw un arall. Ni fyddwn yn eich barnu a byddwn yn helpu trwy roi gwybodaeth, cyngor defnyddiol a'r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch i wneud newidiadau - https://www.meiccymru.org/

Mind: http://www.mind.org.uk/

27/11/20
Pa mor hir fydd yn rhaid imi aros i gael cefnogaeth gan CAMHS?

Mae pa mor hir y mae'n rhaid i chi aros yn dibynnu ar yr amseroedd aros yn eich ardal leol. Mae'r pandemig wedi effeithio ar yr amseroedd a gallant fod yn hirach na'r arfer. Gallwch ganfod pa mor hir y bydd yn rhaid i chi aros trwy gysylltu â'ch Tîm CAMHS lleol.

Mae'n bwysig cofio fod cefnogaeth ar gael wrth ichi aros am asesiad. Mae llawer o wasanaethau a fydd yn gallu cynnig gwybodaeth dda, cyngor a help cynnar ichi. Mae sefydliadau cefnogaeth yn prysur ddod o hyd i ddulliau newydd o helpu ac o ddarparu eu gwasanaethau yn ddiogel, ar-lein, dros y ffôn ac wyneb yn wyneb.

Yng Ngogledd Cymru mae nifer o sefydliadau a all gynnig cefnogaeth ichi. Gallwch ddod o hyd beth sydd ar gael yn eich ardal ar www.dewis.wales neu drwy gysylltu â'ch Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn lleol.

27/11/20
Sut fydd CAMHS yn fy nghefnogi dan yr amgylchiadau presennol?

Os ydych wedi cael eich cyfeirio at CAMHS, cewch eich rhoi ar restr aros am eich apwyntiad cyntaf. Weithiau gelwir yr apwyntiad hwn yn Apwyntiad Dewis (Choice Appointment) (sef dechrau eich ‘asesiad’ yn aml). Does dim angen poeni, ac fel arfer dim ond sgwrs a geir fel y gall y tîm ddod i’ch adnabod chi a'r ffordd orau y gallant eich helpu.

 

Y newid allweddol yw y gall yr apwyntiad hwn ddigwydd yn rhithiol neu mewn rhai achosion dros y ffôn bellach, ond dim ond os ydych chi'n hapus â hyn a bod gennych y dechnoleg addas gartref i gael mynediad i'r system rithiol. Os na ellir cwblhau eich apwyntiad yn rhithiol neu dros y ffôn efallai y byddwch yn cael cynnig apwyntiad wyneb yn wyneb ond mae hyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol a'ch tîm lleol. Yn gyffredinol, bydd yr apwyntiad hwn yn digwydd mewn clinig CAMHS. Mewn rhai amgylchiadau, efallai y byddan nhw'n cwrdd â chi yn eich ysgol, ond nid fel arfer gartref dros y cyfnod hwn. Pan fyddwch chi'n mynychu'ch apwyntiad, gofynnir ichi wisgo mwgwd, golchi neu i ddiheintio eich dwylo ac aros 2 fetr i ffwrdd oddi wrth y person agosaf.

 

Mae'n bwysig nodi y bydd gan rai Gwasanaethau CAMHS amseroedd aros hirach o ganlyniad i'r pandemig cyfredol. Os ydych chi ar y rhestr aros, bydd eich Tîm CAMHS lleol mewn cysylltiad cyn gynted ag y bydd apwyntiad ar gael. Os byddwch chi'n dechrau teimlo'n waeth yn ystod yr amser hwn, gallwch barhau i gysylltu â'r tîm i gael help a chyngor neu gysylltu â rhai o'r sefydliadau cymorth a restrir yng Nghwestiwn 3. Efallai y bydd eich meddyg teulu hefyd yn gallu helpu, a gwneud atgyfeiriad brys. Os ydych chi’n teimlo eich bod mewn argyfwng, gallwch ffonio 101 i gael cyngor, eich heddlu lleol neu fynychu’r Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys ar gyfer gofal brys. Gwnewch hynny mewn argyfwng yn unig.

 

Yn ystod eich apwyntiad cyntaf byddwch fel arfer yn cwrdd ag un neu ddau aelod o dîm CAMHS. Os ydych chi o dan 16 oed, gellir gwahodd eich rhiant (rhieni), gwarcheidwad (gwarcheidwaid) neu ofalwr (ofalwyr) i ymuno am ran o'r cyfarfod hwn.

 

Pan fyddwch yn cyfarfod â'r tîm, byddwn yn gofyn rhai cwestiynau. Mae hyn er mwyn helpu'r tîm i ddeall yr hyn rydych chi'n cael trafferth ag ef ac i gael gwell syniad o'r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch.

 

Tua diwedd y sesiwn, bydd y tîm yn siarad â chi am yr hyn sy'n digwydd nesaf a pha gefnogaeth maen nhw'n meddwl y gallai fod ei hangen arnoch. Cofiwch y gallwch chi hefyd ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych. Os nad ydych chi'n teimlo'n hyderus i ofyn cwestiwn, mae’n syniad da ysgrifennu'r rhain cyn i chi fynd i mewn neu siarad â rhiant / gwarcheidwad / gofalwr am yr hyn rydych chi eisiau ei wybod cyn i chi ddod.

Efallai y byddwch hefyd yn teimlo bod angen cefnogaeth arnoch gan eiriolwr (advocate). (Mae eiriolwr yn berson dibynadwy, weithiau'n weithiwr proffesiynol a all eich cefnogi i gael eich clywed a'ch helpu i gyfleu'r hyn rydych chi'n ei feddwl a'i deimlo). Bydd gwasanaethau eirioli proffesiynol ar gael yn eich ardal a dylai fod gan eich Tîm CAMHS wybodaeth am y rhain fel y gallant wneud cais ar eich rhan ichi gael cefnogaeth. Os mai Cymraeg yw eich iaith ddewisol yna dylech gael cynnig eich asesiad a'ch cefnogaeth yn yr iaith hon hefyd.

Yn ystod eich apwyntiad, mae’n bosib y bydd y tîm eisiau siarad am 'driniaeth' neu gyfarfod dilynol a elwir yn 'Apwyntiad Partneriaeth’ (Partnership Appointment) i drafod eich triniaeth. Y cyfan y mae hyn yn ei olygu yw y byddwch chi yn rhoi cynllun yn ei le ar gyfer y gwaith y byddwn yn ei wneud gyda'n gilydd i’ch helpu i deimlo’n well. Bydd y Tîm yn trafod pryd y bydd angen ichi eu gweld eto neu a fyddant hwy yn cwblhau unrhyw rannau pellach o'ch asesiad.

Yn dilyn eich asesiad, byddwch yn derbyn llythyr, a fydd yn dweud wrthych beth y mae eich asesiad wedi'i ddangos a pha gymorth y gallai fod ei angen arnoch. Gall hyn gynnwys therapi a/neu feddyginiaeth. Os oes angen cymorth pellach arnoch, bydd y tîm yn ysgrifennu atoch gydag apwyntiad dilynol, gan ddisgrifio beth fydd yn digwydd nesaf.

Gellir cynnal apwyntiadau dilynol yn rhithiol, dros y ffôn neu wyneb yn wyneb yn dibynnu ar eich amgylchiadau a'r math o driniaeth sydd ei hangen arnoch.

27/11/20
A yw Gwasanaethau CAMHS yn dal ar gael dan yr amgylchiadau presennol?

Mae ein gwasanaeth CAMHS wedi parhau i weithio gyda phlant a phobl ifanc ers dechrau'r pandemig coronafirws. Bu'n rhaid newid y ffordd rydyn ni'n rhedeg ein gwasanaeth i gydymffurfio â rheolau'r Llywodraeth. Rydym wedi dechrau cefnogi llawer o'r bobl ifanc a gefnogwn mewn cyfarfodydd rhithiol neu dros y ffôn. Lle mae angen clinigol i weld rhywun yn bersonol yr ydym yn gwneud hynny, gan barhau i gydymffurfio gyda’r canllawiau ymbellhau cymdeithasol.

Dros yr wythnosau diwethaf rydym wedi cynnal nifer o asesiadau risg ym mhob un o'n clinigau ac wedi dechrau cyflwyno mwy o ymgynghoriadau wyneb yn wyneb lle nad yw'n bosibl darparu ymyrraeth therapiwtig o bell. Fodd bynnag, rhaid i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (NHS) ddal i gadw at y mesurau ymbellhau cymdeithasol ac, yn genedlaethol, mae gofyniad i bob ymgynghoriad ddigwydd o bell oni bai fod angen clinigol i hyn ddigwydd wyneb yn wyneb. Mae hyn yn golygu na allwn gael cymaint o bobl yn y clinigau ag arfer ac o ganlyniad mae angen i ni flaenoriaethu pa bobl ifanc a welwn yn bersonol. Gall hyn achosi oedi anorfod ac amseroedd aros hirach, felly rydym yn gofyn i unrhyw un sy'n cysylltu gyda’n gwasanaethau fod yn ystyriol o'n staff sy'n gorfod gwneud penderfyniadau anodd ar hyn o bryd ac yn gweithio'n ddiflino i geisio gweld cymaint o blant a phobl ifanc ag y bo modd.

Er mwyn sicrhau ein bod yn cadw at ganllawiau'r llywodraeth rydych yn debygol o weld rhai newidiadau pan ddewch i'n gweld nesaf. Dyma rai o’r prif negeseuon:

PEIDIWCH â mynychu Canolfan Blant oni bai eich bod wedi cael eich cynghori'n benodol i wneud hynny. Cewch wybod y trefniadau penodol gan eich Tîm CAMHS lleol neu yn eich llythyr apwyntiad. Os ydych yn ansicr, cofiwch gysylltu gyda’ch Tîm lleol am gefnogaeth.

PEIDIWCH â mynychu eich apwyntiad os ydych chi'n sâl a / neu os oes gennych symptomau coronafirws. Mae mwy o wybodaeth am symptomau coronafirws a beth i'w wneud ar gael yn:https://www.nhs.uk/conditions/coronavirus-covid-19/symptoms/

  • Oherwydd cynnydd sylweddol yn nifer y galwadau ffôn a dderbyniwn, gallai gymryd mwy o amser inni ddod yn ôl atoch. Allwch chi plîs ddweud yn glir yn eich neges os yw eich ymholiad yn un brys ac, os gwelwch yn dda, byddwch yn ystyriol ac amyneddgar gyda'n staff gan eu bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu.
  • Os ydym yn teimlo bod angen gweld eich plentyn yn bersonol, bydd hyn yn cael ei drafod gyda chi a bydd y mesurau sydd eu hangen i'ch cadw chi a'n clinigwyr yn ddiogel yn cael eu hegluro.
  • Os ydych yn ansicr beth yw eich cynllun gofal, ffoniwch y gwasanaeth.
  • Ni fydd archwiliadau iechyd corfforol (uchder, pwysau, pwysedd gwaed, pyls a thymheredd) yn cael eu cynnal oni bai eu bod yn gwbl angenrheidiol. Trafodwch gyda'r clinigwr os oes angen hyn.
  • Ewch i'r Adran Damweiniau ac Achosion Brys mewn achosion meddygol brys yn unig.
  • Gallwch fod yn dawel eich meddwl y bydd eich clinigwr wedi datgan ei hun yn ddigon da i fod yn y gwaith; y bydd yn cadw at y canllawiau pellter cymdeithasol (oddeutu 2m) ac y bydd ef/hi yn golchi ei ddwylo'n rheolaidd.

 

Os ydym wedi cytuno fod angen ichi gael eich gweld yn bersonol dyma enghreifftiau o'r pethau a allai fod yn wahanol:

  • Dilyn trefniadau newydd wrth fynychu'r clinig, er enghraifft ffonio'r clinig wedi ichi gyrraedd cyn mynd i mewn i'r adeilad. Bydd y trefniadau lleol yn cael eu cadarnhau gyda chi cyn eich apwyntiad.
  • Defnyddio diheintydd dwylo wrth fynd i mewn i'r adeilad.
  • Cadw at fesurau ymbellhau cymdeithasol. Bydd mwy o arwyddion yn y clinig yn egluro'r broses, gan gynnwys systemau unffordd posib.
  • Eistedd ymhellach ar wahân yn ystafelloedd y clinig
  • Efallai y bydd rhai aelodau o’r staff yn gwisgo mygydau.