Neidio i'r prif gynnwy

Mae COVID-19 yn glefyd heintus sy'n effeithio ar eich anadlu. O’r plant a’r bobl ifanc sy’n dal haint COVID, ychydig iawn sy'n mynd ymlaen i gael afiechyd difrifol, ond gall y salwch barhau am fisoedd ar ôl ei ddal. Gelwir hyn yn Covid Hir.

Gall y coronafeirws effeithio ar unrhyw un. Mae rhai plant a phobl ifanc mewn mwy o berygl. Mae hyn yn cynnwys y rhai sydd eisoes yn byw gyda chyflyrau iechyd difrifol.

Argymhellodd y JCVI hefyd y dylid ychwanegu rhai plant a phobl ifanc sydd â systemau imiwnedd gwan at y rhaglen frechu, a hynny am eu bod mewn mwy o berygl o salwch difrifol yn sgil COVID.

I'r rhan fwyaf o blant a phobl ifanc, mae COVID yn salwch ysgafn. Efallai y bydd y symptomau yn para am 2 i 3 wythnos ar y mwyaf.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am y symptomau, ewch i: GIG 111 Cymru.