Neidio i'r prif gynnwy

Pam roedd y cyngor ynghylch pobl ifanc 12-15 oed yn wahanol i'r cyngor ynghylch pobl ifanc 16-17 oed?

Mae pobl ifanc 16 ac 17 oed yn symud tuag at fod yn oedolion, addysg uwch a/neu'r gweithle. Mae eu hymddygiad cymdeithasol a'u patrymau cymysgu cymdeithasol yn wahanol i’r hyn sy’n wir am bobl ifanc 12 i 15 oed, a thrwy gydol y pandemig mae’r cyfraddau heintio wedi bod yn gyson uwch ymhlith pobl ifanc 16 i 17 oed o gymharu â rhai iau. Gall pobl ifanc 16 ac 17 oed hefyd roi eu cydsyniad eu hunain ar sail gwybodaeth i gael eu brechu.