Neidio i'r prif gynnwy

Pam mae pobl ifanc 12-15 oed yn cael cynnig brechlyn COVID-19?

Bydd GIG Cymru yn dechrau cynnig brechlyn Covid-19 i bob plentyn a pherson ifanc rhwng 12 a 15 oed.

Argymhellwyd hyn gan Brif Swyddogion Meddygol y DU ar ôl ailedrych ar y dystiolaeth ynghylch manteision ymestyn y rhaglen frechu i rai iau o ran iechyd cyhoeddus. Ystyriwyd iechyd meddwl, y rhagolygon hirdymor i bobl ifanc a'r effaith ar addysg.

Dywedodd y Prif Swyddogion Meddygol mai addysg oedd un o’r elfennau pwysicaf o ran gwella iechyd cyhoeddus ac iechyd meddwl. Roedd y dystiolaeth gan weithwyr ym maes iechyd cyhoeddus clinigol yn glir ynghylch yr effaith a gafodd colli gwersi a’r amharu ar addysg wyneb yn wyneb ar les ac iechyd meddwl llawer o blant a phobl ifanc.

Adroddodd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) fod manteision brechu fymryn lleiaf yn fwy na'r niwed posibl i’r grŵp oedran hwn, ond na ellid ei argymell ar sail iechyd yn unig.

Awgrymodd y JCVI y gallai'r llywodraeth fod am ofyn am farn bellach ar faterion a oedd y tu allan i'w cylch gwaith nhw - effeithiau cymdeithasol ac addysgol ehangach - gan Brif Swyddogion Meddygol y pedair gwlad.

Ystyriodd Prif Swyddogion Meddygol y DU amrywiaeth o dystiolaeth ynghylch manteision ehangach brechu cyffredinol yn y grŵp oedran hwn, o ran iechyd cyhoeddus, yn ogystal â’r risgiau, cyn argymell y dylai’r rhaglen frechu gael ei rhoi ar waith.

Ym mis Awst 2021, estynnwyd y rhaglen frechu i gynnwys pobl ifanc 16 ac 17 oed. Mae pawb yn y grŵp oedran hwn yng Nghymru wedi cael gwahoddiad i gael eu brechu.