Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw cymhwysedd Gillick?

Ni ragdybir yn awtomatig bod pobl ifanc dan 16 oed yn gymwys yn gyfreithiol i wneud penderfyniadau am eu gofal iechyd, gan gynnwys p’un a ddylid rhoi brechlyn COVID-19 iddynt. Fodd bynnag, mae'r llysoedd wedi datgan y bydd pobl ifanc dan 16 oed yn gymwys i roi cydsyniad dilys i ymyriad penodol os oes ganddynt ddealltwriaeth a deallusrwydd digonol i wybod yn iawn beth a gynigir.

Mae prawf Gillick yn darparu, os oes gan blentyn o dan 16 oed ddealltwriaeth a deallusrwydd digonol i wybod beth sy'n cael ei gynnig, y gellir darparu gofal a thriniaeth heb gydsyniad rhieni.

Os nad yw plentyn yn gymwys i roi cydsyniad drosto'i hun, dylid gofyn am gydsyniad person sydd â chyfrifoldeb rhiant.