Neidio i'r prif gynnwy

Do, roedd hawliau plant yn ganolog i’r penderfyniadau. Ystyriodd y Prif Swyddogion Meddygol gwestiwn lles cyffredinol, yn unol ag egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae'r rhain i gyd yn ddyletswyddau y mae’n rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw iddynt sy'n ehangach na chanlyniadau meddygol yn unig. Roedd yr ystyriaethau hyn y tu hwnt i gylch gwaith y JCVI - sydd wedi rhoi cyngor gwerthfawr iawn – ac roeddent yn rhan o’r broses o lywio penderfyniadau’r Gweinidogion.