Neidio i'r prif gynnwy

A oes sgil-effeithiau neu risgiau posibl?

Ar ôl cael y brechlyn:

  • Efallai y bydd eich braich yn teimlo'n drwm neu'n boenus.
  • Efallai y bydd eich corff yn gwynegu.
  • Efallai y byddwch yn teimlo fel pe bai annwyd neu'r ffliw arnoch.
  • Efallai y bydd gennych gur pen.
  • Efallai y byddwch yn teimlo'n flinedig.
  • Efallai y byddwch yn teimlo'n boeth iawn neu'n oer iawn.

Os byddwch chi'n teimlo'n sâl, gallwch orffwys a chymryd poenladdwyr fel parasetamol. Dylech deimlo'n well ymhen ychydig ddyddiau.

Gallai nifer fach iawn o bobl gael:

  • problemau gyda'u calon (myocarditis) – gall eich calon deimlo fel pe bai’n curo mewn ffordd wahanol i'r arfer
  • poen yn eu brest (pericarditis)
  • problemau anadlu

Os byddwch chi'n teimlo’n sâl ac yn ansicr pa help sydd ei angen arnoch, gallwch gysylltu â GIG 111.

Fe fyddan nhw’n gallu dweud wrthych beth i’w wneud. Os yw’n argyfwng, byddant yn gallu anfon ambiwlans.

Os bydd rhywun yn teimlo'n sâl ar ôl eu brechiad, gallwch gofnodi’r peth ar wefan y cerdyn melyn. Mae hyn yn help inni ddarganfod sut mae gwahanol bobl yn teimlo ar ôl y brechlyn ac yn sicrhau bod y brechlyn yn cadw pobl yn ddiogel.