Bydd y brechlyn yn lleihau'r tebygolrwydd y byddwch yn dioddef yn sgil COVID-19. Gall gymryd ychydig wythnosau i'ch corff greu amddiffyniad ar ôl cael y brechlyn.
Nid yw unrhyw frechlyn yn gwbl effeithiol. Efallai y bydd rhai pobl yn dal i gael COVID-19 er gwaethaf cael y brechlyn, ond dylai fod yn llai difrifol.
Y brechlyn a roddir i blant a phobl ifanc yw brechlyn Pfizer.
Mae profion wedi dangos bod y brechlyn yn ddiogel ac yn effeithiol. Mae brechlyn Pfizer wedi'i gymeradwyo ar gyfer pobl ifanc 12 oed ac i fyny gan reoleiddiwr meddyginiaethau annibynnol y DU.
Nid yw'r brechlyn wedi'i gymeradwyo ar gyfer plant dan 12 oed ac nid yw hyn yn cael ei ystyried ar hyn o bryd.