Neidio i'r prif gynnwy

A all pobl ifanc dan 16 oed gydsynio i gael eu brechu?

I'r rheini sydd dan 16 oed, gofynnir am gydsyniad i’w brechu gan berson sydd â chyfrifoldeb rhiant drostynt. Dim ond cydsyniad un person sydd â chyfrifoldeb rhiant sydd ei angen ar yr amod nad oes unrhyw anghydfod ynghylch y brechu gyda rhiant arall sy'n gyfrifol am y plentyn hwnnw, neu berson arall sydd "in loco parentis", ac os felly gallai fod angen penderfyniad gan y llysoedd.

Ar gyfer canolfannau brechu, bydd y rhiant neu'r gofalwr yn rhoi ei gydsyniad pan fydd yn cyrraedd gyda'r plentyn/person ifanc.

Mewn safle ysgol uwchradd, mae’n arfer cyffredin i ffurflenni cydsyniad a gwybodaeth (neu ddolenni at wybodaeth) gael eu hanfon at rieni neu warcheidwaid y plentyn cyn y sesiwn imiwneiddio. Gall y ffurflenni cydsyniad fod yn rhai papur neu electronig, a chânt eu hanfon drwy e-bost. Gofynnir am gydsyniad ysgrifenedig gan rieni neu warcheidwaid ymlaen llaw gan na fyddan nhw’n bresennol fel rheol adeg y brechiad.