Neidio i'r prif gynnwy

Dyfed Wyn Jones

Mae Dyfed yn Aelod Etholedig ac yn cynrychioli ardal Llanfairpwll a Phorthaethwy ar Gyngor Sir Ynys Mon. Mae’n Is Gadeirydd ar y pwyllgor Sgriwrtini ac yn aelod o’r pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio

Mae’n weithgar iawn o fewn ei gymuned fel ysgrifennydd y Clwb Pel Droed Ieuenctid a hefyd fel Cadeirydd LLywodraethwyr Ysgol Llanfairpwll.

Mae Dyfed yn siaradwr Cymraeg rhugl.

Mae cefndir proffesiynol Dyfed ym maes gyrfaoedd, addysg a sgiliau. Mae wedi bod yn gweithio fel Rheolwr Prosiectau dros nifer o flynyddoedd ar draws y sector gyhoeddus a phreifat yn datblygu a chyflawni nodau strategol yn llwyddiannus. Mae ganddo ddiddordeb penodol mewn datblygu gweithlu a rhoi cyfleon I bobl ifanc yn benodol.

Cafodd ei fagu ym mhentref Penisa’r-waun, yng Ngwynedd. Ond wedi ymgartrefu ym Môn ers 24 o flynyddoedd ac yn byw ym mhentref Llanfairpwll gyda’i wraig a dau o blant. Yn ei amser hamdden mae’n hyfforddwr tim  pel droed dan 15 Llanfairpwll ac yn mwynhau hanes lleol a cherdded mynydd.