Neidio i'r prif gynnwy

Billy Nichols

Ganed Billy sy'n weithiwr gofal iechyd proffesiynol ymroddedig, yng Nghilgwri ac mae bellach yn byw yng Nghaer. Dechreuodd ei yrfa nyrsio gan hyfforddi yn Ysbyty Guy’s, ac yna gweithiodd yn St Thomas’, Ysbyty Brenhinol Llundain, ac Ysbytai Middlesex, (rhan o Ysbyty Coleg Prifysgol Llundain). Yn 2002, dychwelodd Billy i fyw yng ngogledd orllewin Lloegr a dechreuodd weithio yn Ysbyty Maelor, Wrecsam. Mae wedi bod gyda'r Bwrdd Iechyd ers hynny. Mae Billy wedi bod yn weithgar gyda'r Coleg Nyrsio Brenhinol  (RCN) fel Stiward a Chynrychiolydd Iechyd a Diogelwch a gydag Ysgrifenyddiaeth Pwyllgor Partneriaid Undebau Llafur y Bwrdd Iechyd.

Yn 2012, helpodd Billy sefydlu Celtic Pride, sef Rhwydwaith Cefnogi Staff LDHT+ y Bwrdd Iechyd. O dan arweiniad Billy, enillodd y Bwrdd Iechyd gydnabyddiaeth ymhlith 100 o gyflogwr gorau Stonewall. Ond, mae dylanwad Billy yn mynd y tu hwnt i’r gweithle. Cafodd ei gydnabod ddwywaith ar ‘Rhestr Binc’ Cymru o bobl LHDT+ ddylanwadol ac yn 2021, derbyniodd Wobr Teilyngdod y Coleg Nyrsio, sef yr anrhydedd uchaf, i gydnabod ei wasanaeth gwirfoddol rhagorol i’r Coleg.