Neidio i'r prif gynnwy

Chris Stockport

Mae Chris Stockport wedi bod yn Feddyg Teulu ers bron i 20 mlynedd, ac arweiniodd ddatblygiad Prestatyn Iach, dull newydd ac arloesol o ddarparu gwasanaethau gofal cychwynnol wedi'i adeiladu o amgylch tîm amlddisgyblaethol mawr. Cyn datblygu rôl arweinyddiaeth fel Cyfarwyddwr Meddygol Ardal, roedd yn Hyfforddwr Meddygon Teulu, ac yn Gyfarwyddwr Rhaglen Hyfforddiant Arbenigol Meddygon Teulu, ac mae'n parhau yn Gymrawd Ymchwil er anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor.

Mae Chris yn angerddol dros ofal cychwynnol a chymunedol ac ail-ddylunio gwasanaeth, ac yn credu y dylem ddatblygu ein gwasanaethau o amgylch anghenion cleifion - nid y sefydliad.

“Mae gennym heriau enfawr oherwydd newidiadau mewn galwadau iechyd. Fy rôl fydd arwain y gwaith o amgylch sut rydym yn addasu i ddarparu gwasanaethau Gofal Cychwynnol a Chymunedol modern, mewn ffordd sy'n ddoeth o ran dyluniad, ac yn gynaliadwy, ac mewn partneriaeth â'n cydweithwyr yn y trydydd sector, y sector annibynnol ac mewn awdurdodau lleol.

"Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at chwarae fy rhan i gyfrannu at y gwelliannau sydd wedi cael eu cynllunio ar draws y Bwrdd Iechyd."