Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth Amgylcheddol

Mae Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004, (y Rheoliadau) yn rhoi'r hawl i unigolion ofyn am wybodaeth amgylcheddol gan awdurdodau cyhoeddus ynghylch yr elfennau a'r ffactorau sy'n effeithio ar sut mae pobl yn byw ac yn gweithio, er enghraifft gwybodaeth sy'n cael ei chadw am yr aer, y dŵr, y pridd a'r ffactorau a allai effeithio ar y rhain fel ynni, sŵn neu wastraff. Mae'r Rheoliadau hefyd yn rhoi mynediad at y mesurau y mae awdurdod cyhoeddus wedi'u cymryd, fel polisïau, deddfwriaeth neu gytundebau amgylcheddol.  
 

Diffiniad o Wybodaeth Amgylcheddol

Unrhyw wybodaeth ysgrifenedig, weledol, glywedol, electronig neu unrhyw ffurf arall am;
 
(a)   cyflwr elfennau'r amgylchedd, fel yr aer a'r atmosffer, dŵr, pridd, tir, tirwedd a safleoedd naturiol gan gynnwys gwlyptiroedd, ardaloedd arfordirol a morol, amrywiaeth fiolegol a'i chydrannau, gan gynnwys organebau sydd wedi'u haddasu'n enetig a'r rhyngweithio rhwng yr elfennau hyn;
 
(b)   ffactorau fel sylweddau, ynni, sŵn, ymbelydredd neu wastraff, gan gynnwys gwastraff ymbelydrol, allyriadau, gollyngiadau a phethau eraill sy'n cael eu rhyddhau i'r amgylchedd, sy'n effeithio ar neu sy'n debygol o effeithio ar elfennau'r amgylchedd a nodir uchod;
 
(c)   mesurau (gan gynnwys mesurau gweinyddu), fel polisïau, deddfwriaeth, cynlluniau, rhaglenni, cytundebau amgylcheddol, a gweithgareddau sy'n effeithio ar neu sy'n debygol o effeithio ar yr elfennau a'r ffactorau a nodir yn (a) a (b) yn ogystal â mesurau neu weithgareddau sydd wedi cael eu dylunio i ddiogelu'r elfennau hynny;
 
(d)   adroddiadau ynghylch rhoi deddfwriaeth amgylcheddol ar waith;
 
(e)   dadansoddiadau cost a budd a dadansoddiadau economaidd eraill a thybiaethau a ddefnyddir yn fframwaith y mesurau a nodir yn (c); a
 
(f)    cyflwr iechyd a diogelwch pobl, gan gynnwys halogi'r gadwyn fwyd, pan fo'n berthnasol, cyflwr bywydau pobl, safleoedd diwylliannol a strwythurau adeiledig i'r graddau y maen nhw'n cael eu heffeithio neu y byddai modd iddyn nhw gael eu heffeithio gan gyflwr elfennau'r amgylchedd a nodir yn (a) neu, drwy'r elfennau hynny, drwy unrhyw rai o'r materion y cyfeirir atyn nhw yn (b) a (c).
 
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y canllawiau sy'n cael eu cynhyrchu gan DEFRA.
 

Cynllun Cyhoeddi

Er mwyn helpu'r cyhoedd i gael gafael ar wybodaeth o'r fath ac er mwyn cydymffurfio â'r rheoliadau a'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth cynhyrchodd y Bwrdd Iechyd Gynllun Cyhoeddi. Mae hwn yn ganllaw llawn i'r wybodaeth; gan gynnwys yr wybodaeth amgylcheddol, y mae'r Bwrdd Iechyd yn ei chyhoeddi'n arferol, yn unol â'r Cynllun Cyhoeddi Model a gynhyrchwyd gan y Comisiynydd Gwybodaeth. Mae'r Canllaw i Wybodaeth yn dilyn fformat y saith dosbarth cyffredinol o wybodaeth y cyfeirir atyn nhw yn y Cynllun Cyhoeddi Model ac yn y Ddogfen Diffiniad ar gyfer Byrddau Iechyd yng Nghymru.
 

Hawliau Mynediad Cyffredinol

Mae'r Bwrdd Iechyd hefyd yn rhoi hawl i'r cyhoedd gael gafael ar wybodaeth amgylcheddol nad yw'n dod o dan y Cynllun Cyhoeddi. Isod mae amlinelliad byr o'r manylion ynghylch sut gall aelodau o'r cyhoedd wneud ceisiadau am wybodaeth amgylcheddol i'r Bwrdd Iechyd a'r mathau o wybodaeth sydd ar gael iddyn nhw.
 
Yn gyffredinol bydd y Bwrdd Iechyd yn rhoi'r holl Wybodaeth Amgylcheddol i'r sawl a oedd wedi gofyn amdani, er bod rhai cyfyngiadau ar yr hawl i gael mynediad at gategorïau penodol o wybodaeth. Nid yw'r Bwrdd Iechyd yn ystyried pwy sy'n gofyn am yr wybodaeth na pham maen nhw'n gofyn am yr wybodaeth. 
 
Mae modd cyflwyno ceisiadau am wybodaeth ar lafar neu'n ysgrifenedig. Mae ein tudalen Cysylltu â Ni yn rhoi'r manylion ar gyfer gohebu a'n gwasanaeth i gyflwyno cais ar-lein. 
 
Wrth wneud cais am wybodaeth, byddwch mor glir â phosib drwy nodi'r union wybodaeth sydd ei hangen er mwyn helpu'r Bwrdd Iechyd i ymateb i'r cais. Cadarnhewch pa fformat fyddai orau gennych chi dderbyn yr wybodaeth, er enghraifft, ar lafar, yn electronig neu ar ffurf copi caled.
 
Bydd y Bwrdd Iechyd yn ymateb i geisiadau cyn gynted ag sy'n bosib, mewn 20 diwrnod gwaith. Mae'n bosib iddo:
  •      darparu'r wybodaeth y gofynnwyd amdani;
  •      rhoi gwybod i'r sawl a wnaeth y cais os nad ydy'r wybodaeth yn cael ei chadw;
  •      rhoi gwybod i'r sawl a wnaeth y cais os ydy'r wybodaeth gan awdurdod cyhoeddus arall;
  •      rhoi ‘Hysbysiad Ffioedd’ sy'n rhoi gwybod i'r sawl a wnaeth y cais bod Ffioedd yn berthnasol i'r math penodol hwnnw o gais am wybodaeth;
  •      gwrthod rhoi'r wybodaeth, ac egluro'r rhesymau pam;
  •      rhoi gwybod i'r sawl a wnaeth y cais bod angen rhagor o amser ar y Bwrdd Iechyd a chadarnhau pryd y dylid disgwyl ymateb.

Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth wedi cyhoeddi Siarter ar gyfer Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth Cyfrifol. Gall y siarter yma eich helpu i wneud ceisiadau am wybodaeth gan y Bwrdd Iechyd; mae hefyd yn sôn am y ceisiadau a wneir o dan y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol.

Cwynion

Os nad ydych chi'n fodlon â'r ffordd mae'r Bwrdd Iechyd wedi delio â'ch cais, gallwch chi gwyno drwy Gysylltu â Ni.
 
Bydd yr holl gwynion yn cael eu trin yn unol â 'Pholisi Cwynion Rhyddid Gwybodaeth /Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol' y Bwrdd Iechyd. Os na fyddwch chi'n fodlon ar ymateb y Bwrdd Iechyd i'ch cwyn, mae gennych chi'r hawl i gwyno wrth Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
 

Cofrestr Datgeliadau

Er mwyn helpu'r cyhoedd, cynhyrchodd y Bwrdd Iechyd Gofrestr Datgeliadau sy'n rhoi amlinelliad byr o'r ceisiadau sydd eisoes wedi cael eu cyflwyno i'r sefydliad, ynghyd â'r ymatebion perthnasol a gyhoeddwyd o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004.
Cofiwch: cafodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ei greu ar 1 Hydref 2009 gan gyfuno Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Cymru (Ymddiriedolaeth GIG Conwy a Sir Ddinbych ac Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Ddwyrain Cymru gynt), Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru a chwe Bwrdd Iechyd Lleol Gogledd Cymru.