Neidio i'r prif gynnwy

Ffioedd am Wybodaeth

Cyflwyniad

Nod Trefn Codi Ffioedd am Geisiadau am Wybodaeth Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr ydy gosod y ffioedd a'r alldaliadau mae modd i awdurdodau cyhoeddus eu codi er mwyn cael mynediad at wybodaeth a sut dylid cyfrifo'r rhain.

Rhaid delio ag unrhyw geisiadau am wybodaeth sy'n ymwneud â´r amgylchedd yn unol â Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004.

Fel arall, os ydy'r cais am unrhyw wybodaeth arall sy'n cael ei chadw gan neu ar ran Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr (y Bwrdd Iechyd), yna bydd hynny'n cael ei drin yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.

Os bydd ffi ynghlwm wrth gais am wybodaeth, bydd y Bwrdd yn ceisio, o dan ei ddyletswydd yn y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd (2005), Deddf Cysylltiadau Hiliol (Diwygiad) 2001 a deddfwriaeth sydd ar fin cael ei chyflwyno ar haenau cydraddoldeb, yn helpu'r ymgeiswyr i ddeall neu i gael gafael ar yr wybodaeth y gofynnir amdani mewn fformatau gwahanol. Mae'r Bwrdd Iechyd yn cytuno i drafod gofynion yr ymgeisydd fesul achos.

Ffioedd Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn rhoi'r hawl i unigolion gael gafael ar wybodaeth sydd wedi'i chofnodi ac sy'n cael ei chadw gan awdurdod cyhoeddus. Bydd y ceisiadau hyn yn deillio o ddwy brif ffynhonnell, drwy Gynllun Cyhoeddi y Bwrdd Iechyd neu drwy hawliau mynediad cyffredinol. Rhaid delio â cheisiadau drwy hawliau mynediad cyffredinol cyn pen 20 diwrnod o dderbyn y cais.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn bwriadu darparu cymaint o wybodaeth â phosib am ddim. Serch hynny, os bydd cais sy'n arbennig o gymhleth neu'n golygu llawer iawn o wybodaeth, neu os oes oblygiadau masnachol i'r cais, bydd y Bwrdd Iechyd yn gofyn am ffi yn unol â'r Rheoliadau Ffioedd, sydd wedi cael eu cyhoeddi gan yr Adran Materion Cyfansoddiadol.

Mae'r Ddeddf yn cynnwys darpariaeth i'r Bwrdd Iechyd godi ffi wrth ymateb i gais sy'n costio dros £450. Mae'r Ddeddf hefyd yn cynnwys darpariaethau i'r Bwrdd Iechyd wrthod cais os bydd cost y cais dros y 'terfyn priodol' sef £450. 

Dyma'r costau safonol y caiff y Bwrdd Iechyd eu codi:

Adfer gwybodaeth                                                £25.00 yr awr/y pen

Llungopïo ac Argraffu                                         £0.10 y ddalen – Du a Gwyn                                                                                                                                                               £0.50 y ddalen - Lliw

CD Rom                                                                      £0.70 y CD

Disg Hyblyg                                                                £0.25 y Ddisg

Codi ffioedd postio safonol gan ddibynnu ar y pwysau, y dosbarth a'r gyrchfan.

Os ydy'r unigolyn yn gofyn i'r wybodaeth gael ei chyfieithu i iaith arall, ar yr amod nad ydy natur yr wybodaeth yn feddygol, yna gall y Bwrdd Iechyd ddefnyddio'r cyfleusterau sy'n cael eu cynnig gan Linell yr Iaith Gymraeg. Amcan o'r gost ydy:

Fesul dalen A4 o gyfieithu                                       £90.00

[Bydd hyn yn cael ei gyfrifo fesul 1000 o eiriau a bydd ar sail fesul achos].

Caiff y Bwrdd Iechyd beidio â chodi'r ffi am geisiadau o dan £10.00, ond mae'n cadw'r hawl i godi ffi ar sail fesul achos.

Y Cynllun Cyhoeddi

Mae'r Cynllun Cyhoeddi yn nodi'r dosbarthiadau o wybodaeth sydd gan y Bwrdd Iechyd ar gael, sut mae'n darparu'r wybodaeth ac unrhyw ffioedd a godir am wybodaeth o'r fath. Yn gyffredinol bydd gwybodaeth sydd ar gael drwy'r Cynllun Cyhoeddi am ddim, er mae modd i'r Bwrdd Iechyd godi os gofynnir am wybodaeth ar ffurf copi caled neu os gofynnir i'r wybodaeth gael ei chopïo ar fath gwahanol o gyfryngau (ee CD Rom) [mae'r ffioedd safonol wedi cael eu hamlinellu uchod] 

Bydd y ffioedd yn amrywio yn ôl sut mae gwybodaeth ar gael: 

  • mae gwybodaeth sydd ar wefan y Bwrdd Iechyd ar gael am ddim, er y byddai'n rhaid i'r unigolyn dalu am unrhyw gostau ar gyfer Darparwr Gwasanaeth Rhyngrwyd a chostau argraffu personol;
  • ar gyfer y rheini heb fynediad i'r rhyngrwyd, byddai un dudalen wedi'i hargraffu o'r wefan ar gael drwy'r post. Serch hynny, gallai ceisiadau am argraffu nifer o dudalennau, neu gopïau sydd wedi'u harchifo nad ydyn nhw ar gael mwyach ar y wefan, arwain at ffi am yr adfer, y llungopïo a'r postio [mae'r ffioedd safonol wedi cael eu hamlinellu uchod];
  • fel rheol mae taflenni a phamffledi'r Bwrdd Iechyd ar gael am ddim;
  • bydd e-bost am ddim, oni nodir fel arall.

Ffioedd y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol

O dan y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol, gall y Bwrdd Iechyd godi “ffi resymol” am gydymffurfio â chais, felly mae modd adennill cost lawn adfer a darparu'r wybodaeth. Yn wahanol i'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, nid oes terfyn cost priodol ac mae'n rhaid delio â phob cais ni waeth beth ydy'r gost oni bai fod eithriad yn berthnasol. (Gweler y Ffioedd Deddf Rhyddid Gwybodaeth uchod)

Hawlfraint

Bydd rhywfaint o'r wybodaeth sy'n cael ei chyflenwi o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn destun diogelwch hawlfraint o dan Ddeddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1998. Oni nodir yn benodol i'r gwrthwyneb ar y deunydd, ceir ei atgynhyrchu am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, ar yr amod ei fod yn cael ei atgynhyrchu'n gywir ac na chaiff ei ddefnyddio mewn ffordd gamarweiniol. Pan fydd unrhyw rai o'r eitemau hawlfraint yn cael eu hailgyhoeddi neu eu copïo i eraill, mae'n rhaid i'r ymgeiswyr nodi ffynhonnell y deunydd a chydnabod statws yr hawlfraint. Gall methu â chael caniatâd arwain at dorri Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1998. Nid ydy'r caniatâd i atgynhyrchu deunyddiau yn ymestyn i unrhyw ddeunyddiau sy'n hawlfraint i drydydd partïon. Rhaid i chi gael awdurdod i atgynhyrchu unrhyw ddeunydd o'r fath gan y rheini sy'n dal yr hawlfraint dan sylw. 

Taliadau

Os oes yn rhaid talu ffi, bydd hysbysiad ffioedd yn cael ei roi i'r ymgeisydd gan nodi'r union ffi cyn y ceir unrhyw gostau wrth baratoi i lunio'r ymateb. Bydd pob hysbysiad ffioedd yn cynghori'r ymgeisydd i sicrhau bod eu siec neu eu harcheb bost yn daladwy i 'Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr’.

Ad-daliadau

Byddwn yn gofalu i sicrhau bod y ffioedd y byddwn yn eu hamcangyfrif mor gywir â phosib. Os bydd y gost go iawn yn is na'r swm a godwyd, bydd y Bwrdd Iechyd yn ad-dalu'r swm os yw'n fwy na £5.00.

Rhagor o wybodaeth

Cysylltu â Ni