Yn unol â'n rheolau sefydlog, rhaid i aelodau bwrdd a gweithwyr ddatgan i ni er mwyn ei gofnodi yn ein cofrestr rhoddion ac yn ein cofrestr lletygarwch, a nawdd, unrhyw gynigion o roddion, lletygarwch, honoraria neu nawdd p'un a ydynt yn cael eu derbyn neu eu gwrthod.
Mae gan Aelodau'r Bwrdd a gweithwyr gyfrifoldeb personol i wirfoddoli gwybodaeth mewn perthynas â chynigion o roddion, lletygarwch, honoraria a nawdd, gan gynnwys y cynigion hynny a wrthodwyd.
Yn unol ag ymrwymiad y Bwrdd Iechyd i fod yn agored a thryloyw, mae'r Gofrestr o Roddion a'r Gofrestr o Letygarwch, Honoraria a Nawdd ar gael yn gyhoeddus trwy'r hyperdolennau isod: