Neidio i'r prif gynnwy

Deall eich barn a'ch profiad o lawdriniaeth orthopedig wedi'i chynllunio (gososd clun a phen-glin newydd)

Rydym yn awyddus i ddeall barn pobl sy'n derbyn gofal yng Ngogledd Cymru, yn benodol ar lawdriniaeth orthopedig wedi'i chynllunio, a elwir hefyd yn ofal dewisol.

Pan fyddwn yn sôn am lawdriniaeth orthopedig, rydym yn aml yn cyfeirio at osod clun a phen-glin newydd.

Rydym yn awyddus i glywed barn pobl sydd â phrofiad o gael diagnosis, aros am ofal a/neu wedi cael llawdriniaeth i osod cymalau newydd o fewn y 18 mis diwethaf yng Ngogledd Cymru, a byddwn yn cynnal cyfres fer o grwpiau trafod bach yn gynnar yn y Blwyddyn Newydd i archwilio profiadau.

Rydym yn chwilio am bobl i wirfoddoli i gymryd rhan yn y trafodaethau yma (hyd at 10 o bobl) i rannu meddyliau a syniadau; a darparu mewnwelediad i'n helpu i ddylunio ein gwasanaethau nawr ac ar gyfer y dyfodol.

Ni fydd y grwpiau trafod yn para mwy na 90 munud a byddant yn cael eu cynnal naill ai ar-lein neu wyneb yn wyneb, mi fydd cyfranogwyr yn cael eu had-dalu am eu hamser a'u treuliau.

Rydym yn awyddus i glywed gan bobl nawr a byddwn yn cynnal y grwpiau ym mis Ionawr 2024. Rydym yn gweithio gydag ASV Research Ltd (ASV) a fydd yn recriwtio gwirfoddolwyr ac yn rhedeg y grwpiau ffocws ar ran y Bwrdd Iechyd.

Os hoffech gymryd rhan yn y grwpiau trafod, anfonwch e-bost at:

groups@asv-online.co.uk

Cofiwch gynnwys yn eich neges:

  • Eich enw;
  • Manylion cyswllt (e-bost a rhif ffôn);
  • Y Sir yr ydych yn byw ynddi; a
  • Ble cawsoch eich llawdriniaeth (os nad ydych yn dal i aros.)

Sylwch nad yw gwirfoddoli i gymryd rhan yn gwarantu y cewch eich gwahodd i ymuno â'r trafodaethau. Byddwn yn cydnabod pob gohebiaeth ac yn rhoi gwybod i chi os ydych am gael eich gwahodd i gymryd rhan ai peidio.

  • Bydd unrhyw ddata cyswllt personol a ddarperir i ASV yn cael ei ddefnyddio at ddibenion yr ymarfer hwn yn unig, yn cael ei ddinistrio'n ddiogel ar ôl ei gwblhau ac ni chaiff ei ddefnyddio at unrhyw ddibenion marchnata o dan unrhyw amgylchiadau.

I gael rhagor o wybodaeth am bolisi data a phreifatrwydd ASV, gweler Polisi Preifatrwydd - ASV Research (asv-research.com)