Neidio i'r prif gynnwy

Ysbyty Llandudno yn mabwysiadu menter aeaf i helpu i leddfu pwysau ar welyau mewn safleoedd eraill

08/12/21

Mae staff yn gobeithio y bydd menter aeaf yn Ysbyty Llandudno yn helpu i leddfu pwysau ar welyau mewn safleoedd eraill o amgylch Gogledd Cymru.

Bydd y Gwasanaeth Pontio yn golygu y bydd cleifion sy'n ddigon iach o safbwynt meddygol i gael eu rhyddhau, ac sydd â phecyn gofal addas ar waith, yn cael eu “camu i lawr” i ward Aberconwy sydd wedi'i llunio’n arbennig yn Llandudno.

Anelir y prosiect chwe mis yn bennaf at leddfu pwysau ar welyau mewn prif safleoedd llym trwy gynnig yr hyn a ddisgrifiwyd fel lle “trosiannol” rhwng triniaeth a rhyddhau cleifion.

Mae staff o Ysbyty Enfys Glannau Dyfrdwy wedi bod yn rhan o'r gwaith o sefydlu’r ward, fel rhan o’r Fenter Pwysau Gaeaf, a dechreuodd y ward dderbyn cleifion ar 8 Tachwedd.

Dywedodd Claire Perry, rheolwr gweithrediadau ar gyfer Gwasanaethau Pontio Llandudno: “Fe'i gelwir yn wasanaeth pontio oherwydd ein bod yn pontio'r bwlch rhwng gofal meddygol a mynd adref.

“Dylai fod gan bob claf ddyddiad rhyddhau neu gynllun ar gyfer rhyddhau o fewn 96 awr ar ôl cyrraedd yma - cyhyd â bod ganddynt gynllun, gallant gael eu camu i lawr yma.

“Tra byddant ar y ward, gall unrhyw therapïau sydd eu hangen barhau a bydd cleifion yn cael eu hasesu gan ffisiotherapyddion a therapyddion galwedigaethol.  Mae'n bwysig gwneud hyn fel nad fydd eu cyflwr yn gwaethygu tra byddant yn yr ysbyty.

“Er enghraifft, gallai rhywun fod wedi cael hysterectomi a byddai'n cael ei hystyried yn iach o safbwynt meddygol ond efallai y bydd angen ychydig mwy o therapi arnynt o hyd.

“Gallai fod yn glaf orthopedig a allai fod yn iach o safbwynt meddygol ond bydd angen cadw golwg ar glwyf, felly bydd yn dod yma am ddau neu dri diwrnod i ryddhau gwely llym cyn cael ei ryddhau.”

Bydd yr uned 19 gwely yn derbyn oedolion 18 oed a hŷn o Ysbyty Glan Clwyd, Ysbyty Gwynedd, ynghyd ag ysbytai eraill yn y rhanbarth.

Ychwanegodd Claire: “Hoffem i'r cleifion sy'n dod yma allu gofalu amdanynt hwy eu hunain y tu allan i'r ysbyty gyda dim ond elfen o ofal.”

Dywedodd y nyrs staff Andrew Garland: “Nid yw'n ward gorlif, mae'n ward ar gyfer pontio. Rydyn ni yma ond dylai popeth fod yn barod i gleifion fynd adref.

“Rydym ni'n dymuno sicrhau llif cyson fel y bydd mwy o gapasiti yn Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Gwynedd.”