Neidio i'r prif gynnwy

Ysbyty Gwynedd yn cyrraedd carreg filltir robotig

26.07.23

Mae timau llawfeddygol orthopedig yn Ysbyty Gwynedd bellach wedi perfformio 100 o lawdriniaethau gosod pen-glin newydd â chymorth robotig gan ddefnyddio technoleg robotig arloesol.  

Ysbyty Gwynedd yw'r ysbyty GIG cyntaf yng Nghymru i berfformio llawdriniaethau robotig i osod pen-glin newydd. 

Gan ddefnyddio system ROSA, mae llawfeddygon yn gallu personoli'r llawdriniaeth gosod pen-glin newydd sy'n darparu llawdriniaethau mwy manwl gywir, arhosiadau byrrach o bosibl yn yr ysbyty a gwellhad cyflymach.

Defnyddir y system ar hyn o bryd gan pedwar Llawfeddyg Ymgynghorol Orthopedig, Mr Muthu Ganapathi, Mr Agustin Soler, Mr Koldo Azurza a Mr Ashok Goel.

Dywedodd Mr Ganapathi: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cyrraedd y garreg filltir hon yn Ysbyty Gwynedd, mae hyn yn glod i’r tîm cyfan sydd wedi cofleidio’r cyfle i ddatblygu a defnyddio’r offer arloesol hwn er budd ein cleifion yng Ngogledd Cymru.

“Dechreuon ni ddefnyddio’r ROSA yn ôl yn 2021 ond oherwydd cyfyngiadau COVID-19 a phwysau gofal heb ei drefnu mae wedi cyfyngu ar nifer y llawdriniaethau rydym wedi gallu eu cynnal.

“Ers i ni ddechrau defnyddio’r dechnoleg rydym wedi gweld canlyniadau rhagorol gyda rhai cleifion yn mynd adref ar yr un diwrnod ar ôl y llawdriniaeth. Mae systemau robotig fel ROSA yn offer ardderchog ac yn ein cefnogi i fod mor fanwl gywir â phosibl yn ystod y llawdriniaeth.”

Mae Mr Soler, sydd hefyd yn un o'r llawfeddygon sy'n defnyddio'r system robotig i osod pen-glin newydd yn llawn, yn gobeithio y bydd yn denu recriwtiaid newydd i'r ysbyty a'r bwrdd iechyd.

Dywedodd: “Rydym yn falch iawn o allu cynnig y math hwn o dechnoleg a bod yr ysbyty GIG cyntaf yng Nghymru i’w ddefnyddio.

“Rydym yn credu y bydd cael y dechnoleg hon sydd ar gael i ni yn denu mwy o hyfforddeion uwch a meddygon gradd ganol i ddod i weithio gyda ni.

“Mae'r dechnoleg hon yn annog cywirdeb, yn lleihau amrywiad ac yn helpu i wella rhagweladwyedd canlyniadau i gleifion.

“Mae hefyd yn rhoi'r gallu i ni gynllunio'r llawdriniaeth cyn i chi hyd yn oed fynd i mewn i'r theatr. Rydym yn gallu rhag-gynllunio a gweld canlyniad y llawdriniaeth ar y sgrin cyn i ni hyd yn oed ddechrau ar y gwaith. Mae hyn yn rhoi llawer mwy o hyder i ni yng nghywirdeb y llawdriniaeth.”

Dywed David Lawless, Cyfarwyddwr Cyswllt - Datrysiadau Data a Thechnoleg Zimmer Biomet: “Mae mwy na 100 o bobl wedi cael eu trin â System Pen-glin Robotig ROSA Zimmer Biomet ac rydym yn falch o ddathlu’r garreg filltir hon gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.”

“Mae System Pen-glin Robotig ROSA yn galluogi cleifion i gael profiad sydd wedi'i bersonoli iddynt a all wella eu canlyniadau.”