Neidio i'r prif gynnwy

Uwch Ymarferydd Nyrsio yn ennill ysgoloriaeth ymchwil chwenychedig am waith 'ysbrydoledig' yng nghanolfan feddygol Bae Colwyn

25.08.2023

Mae Uwch Ymarferydd Nyrsio (ANP), a ddisgrifiwyd fel “ysbrydoliaeth” gan gydweithwyr, wedi ennill gwobr ysgoloriaeth genedlaethol chwenychedig ar ôl datblygu ymchwil yn ei chanolfan feddygol.

Mae Lucie Parry, sydd wedi’i lleoli yng Nghanolfan Feddygol West End ym Mae Colwyn, wedi ennill Gwobr Ysgoloriaeth Sefydliad Betsi Cadwaladr gan Brif Swyddog Nyrsio Cymru, Sue Tranka.

Y gobaith yw, trwy gyflwyno diwylliant o ymchwil yn seiliedig ar dystiolaeth i'r feddygfa, byddant yn cadw staff ac yn denu eraill i weithio yno.

Mae nyrs ymgynghorol gofal sylfaenol, Nia Boughton, yn gweithio gyda Lucie a thynnodd sylw at ymdrechion ei chydweithiwr i ennill y wobr.

Llawdriniaeth achos dydd i osod clun a phen-glin newydd yn trawsnewid taith adferiad claf - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)

Dywedodd: “Mae hyn yn digwydd o ganlyniad i waith caled Lucie a'r hyn y mae hi wedi'i wneud i wella ein hamgylchedd gwaith. Mae hi'n ysbrydoliaeth - rydyn ni'n meddwl y byd ohoni.

“Doedd dim ymchwil yn mynd rhagddo tan i Lucie ymuno â'r practis. Un o'r pethau sy'n helpu i gadw staff yw'r cyfle i gynnal ymchwil.

“Mae hefyd yn rhoi cyfleoedd i gleifion gael ymyriadau a thriniaethau na fyddent yn eu cael fel arall, o bosib.”

Mae'r gwobrau, a roddir gan y Coleg Nyrsio Brenhinol, yn agored i bob nyrs gofrestredig, bydwraig a nyrs iechyd cyhoeddus cymunedol arbenigol.

Er mwyn cael eu hystyried, rhaid i ymgeiswyr ragori mewn naill ai arweinyddiaeth, arfer clinigol, ymchwil a datblygu neu addysg a hyfforddiant.

Ar ôl cyfaddef nad oedd hi'n edrych ymlaen at y cyfweliad gyda’r panel beirniadu, dangosodd Lucie sut roedd y practis wedi ymgysylltu ag ymchwil – ac roedd eisiau gwneud hyd yn oed mwy.

Merch ifanc yn cael aduniad gyda'r meddygon a achubodd ei bywy - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)

“Roedd eu cwestiynau'n ymwneud â fy natblygiad fy hun,” datgelodd. “Dywedais fod yna lawer o bethau yr oedden ni eisiau eu gwneud ond roedd angen cael y cyllid.

“Gobeithio y bydd y wobr yn ein helpu i gael y cyllid hwnnw i wneud mwy o ymchwil. Mae’n gysylltiedig â cheisio denu staff a datblygu ein staff presennol i bwynt lle gallant gynnal ymchwil.

“Mae gennym ni weithwyr proffesiynol amlddisgyblaethol. Mae gennym ni barafeddygon, nyrsys, fferyllwyr. Ond fel pawb arall rydym yn ceisio recriwtio mwy o staff. Felly mae angen i ni fod yn arloesol i'w denu.

“Mae angen i ni fod yn denu pobl sydd eisiau cynnal ymchwil - pobl sydd wir yn poeni am y gymuned maen nhw'n gweithio ynddi. Yr allwedd i gadw staff yw gwneud y practis yn lle addysgiadol trwy waith.”

Mae hi wedi helpu i adeiladu grŵp o wyth gweithiwr iechyd proffesiynol sy’n ymwneud ag ymchwil, gyda thair astudiaeth yn recriwtio ac wyth arall yn cael eu sefydlu.

Maent hyd yn oed wedi cyflwyno mewn cynadleddau cenedlaethol ac wedi cydweithio â thimau ymchwil eraill.

Enwebiadau ar gyfer gwobrau mawreddog i dîm enghreifftiol sydd yn brwydro yn erbyn achos mwyaf marwolaethau y gellir eu hatal mewn ysbytai - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)

Y nod bob amser i Lucie oedd newid Canolfan Feddygol y West End yn bractis seiliedig ar ymchwil.

Ychwanegodd: “Gofynnais i staff pa mor bwysig oedd ymchwil yn eu barn nhw, yna fe wnaethom ni gymryd rhan mewn astudiaethau cenedlaethol ac agor rhai eraill.

“Nid yw’n effeithio ar waith. Rwy’n dweud wrth bobl, ‘mae gennym ni bractis ymchwil ond nid ydych chi wedi sylwi mewn gwirionedd’.

“Mae cleifion eisiau cymryd rhan ac mae staff yn ei fwynhau'n fawr. Mae'n beth positif.”

Bydd Lucie yn derbyn ei thystysgrif, a siec o £1,500 i’w helpu i ddatblygu gwaith ymchwil y tîm, yng Nghaerdydd fis Hydref eleni.

Dilynwch newyddion diweddaraf y Bwrdd Iechyd trwy gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio Sign up (es-mail.co.uk)