Neidio i'r prif gynnwy

Llawdriniaeth achos dydd i osod clun a phen-glin newydd yn trawsnewid taith adferiad claf

24.08.23

Mae nyrs sy'n gofalu am oedolion ag anableddau dysgu wedi canmol y tîm yn Ysbyty Gwynedd ar ôl derbyn llawdriniaeth i osod clun newydd a newidiodd ei fywyd a'i caniataodd i fynd adref ar yr un diwrnod.

Bydd y llawdriniaethau achos dydd, sydd ar gael i gleifion a ddewiswyd yn ofalus ar draws ein safleoedd acíwt, yn helpu i gwtogi rhestrau aros am driniaethau orthopedig ac yn galluogi cleifion i wella yng nghysur eu cartrefi eu hunain, gan osgoi arosiadau hir yn yr ysbyty.

Yn ystod mis Gorffennaf, derbyniodd Kevin Jones, 55, ei glun newydd a chafodd ei ryddhau yn ôl i'w gartref ger Bangor yr un diwrnod, dim ond naw awr ar ôl y llawdriniaeth.

Wythnos yn ddiweddarach, dychwelodd Kevin i'r ysbyty ar gyfer ei ymgynghoriad dilynol a llwyddodd i gerdded heb gymorth.

Dywedodd: “Pan ddywedwyd wrthyf fy mod wedi bodloni'r meini prawf ar gyfer gosod clun newydd fel achos dydd roeddwn i'n bryderus i ddechrau o ran y sefyllfa lleddfu poen. Fodd bynnag, cefais sicrwydd y byddwn ar yr un feddyginiaeth poen ag y byddwn yn ei chael yn yr ysbyty, cefais hefyd gefnogaeth gan fy ngwraig felly penderfynais y byddai'n llawer gwell gennyf wella yn fy nghartref fy hun.

“Roeddwn i mewn ychydig o boen am rai dyddiau ar ôl y llawdriniaeth, a oedd i’w ddisgwyl, ond fe wnes i barhau â’r ymarferion ffisio yr oeddwn i fod i'w gwneud ac yn araf deg dechreuais deimlo’n fwy hyderus wrth gerdded o gwmpas gydag un fagl ac weithiau hebddo.”

Ar gyfartaledd, bydd cleifion sy'n cael llawdriniaeth i osod clun newydd yn treulio rhwng dwy a thair noson yn yr ysbyty ar ôl llawdriniaeth. Un o'r prif bethau cadarnhaol am yr opsiwn achos dydd yw ei fod yn eu galluogi i wella yng nghysur a diogelwch eu cartrefi eu hunain, gan annog adsefydlu cyflymach a lleihau eu risg o heintiau a gafwyd yn yr ysbyty.

Nid yw pob claf yn addas ar gyfer llawdriniaeth achos dydd i osod clun newydd, ac mae achosion yn cael eu rheoli ar sail unigol ac mae angen ystyried ffactorau gan gynnwys oedran, iechyd a ffitrwydd, ac a yw ffrindiau a theulu yn gallu cefnogi eu hadferiad gartref.  Mae'n rhan o'r asesiadau a'r cynllunio cyn-llawdriniaeth cynhwysfawr sydd eu hangen i sicrhau y gellir cynnal llawdriniaeth ddiogel, ac yna adsefydlu effeithiol.  

Dywedodd llawfeddyg Kevin, Llawfeddyg Ymgynghorol Orthopedig, Mr Muthu Ganapathi, a gynhaliodd y llawdriniaeth achos dydd cyntaf i osod clun newydd yn Ysbyty Gwynedd ym mis Chwefror 2020: “Bydd y gallu i gyflawni’r triniaethau hyn a rhyddhau cleifion ar yr un diwrnod yn gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau ein cleifion, gan wella eu gofal a’u hadferiad a chwtogi amseroedd aros am lawdriniaeth.

“I allu cynnal y llawdriniaeth hon yn llwyddiannus mae angen tîm cydweithredol o wahanol weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n rhan o'r broses o’r cychwyn cyntaf. Rydym yn ffodus bod gennym ni ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol, fferyllwyr a nyrsys gwych a thîm theatr rhagorol.”

Mae'r Llawfeddyg Ymgynghorol Orthopedig, Mr Agustin Soler, hefyd yn cynnal llawdriniaethau i osod clun newydd, llawdriniaethau i osod pen-glin newydd a gosod pen-glin rhannol fel achosion dydd ar gyfer cleifion dethol: “Mae llawdriniaethau arthroplasti fel achosion dydd yn hynod fuddiol i gleifion sy'n bodloni'r meini prawf ar gyfer y math hwn o lawdriniaeth.

“Nid yw pawb yn addas ar gyfer y math hwn o lawdriniaeth, gan fod anghenion cleifion yn cael eu hasesu a rhaid iddynt fodloni ein meini prawf llym.

“Mae’r cleifion yn cael gwybodaeth cyn iddynt adael yr ysbyty ac mae ganddynt rif uniongyrchol i ffonio’r ward os oes unrhyw broblemau, bydd galwad dilynol yn cael ei wneud y diwrnod wedyn a byddant yn cael eu gweld yn y clinig yr wythnos ganlynol.”

Mae Kevin bellach ar ei daith tuag at adferiad ac yn mawr obeithio ail-afael yn ei ddiddordebau o feicio a chymryd rhan mewn chwaraeon dŵr yn y dyfodol agos.

Dywedodd: “Rwy’n falch iawn fy mod wedi cael y llawdriniaeth a hoffwn ddiolch i’r tîm a ofalodd amdanaf.

“Roedd y boen yn annioddefol cyn y llawdriniaeth ac fe effeithiodd yn fawr ar fy mywyd o ddydd i ddydd, gan gynnwys fy ngwaith ac roedd yn fy atal rhag gwneud y pethau rwy’n eu mwynhau.

“Roeddwn i’n hoff iawn o feicio a chwaraeon dŵr ac nid wyf wedi gallu gwneud hynny ers blynyddoedd felly rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gael yr un ansawdd bywyd yn ôl.”