Neidio i'r prif gynnwy

Merch ifanc yn cael aduniad gyda'r meddygon a achubodd ei bywy

24/08/2023

Mae Niamh (naw oed) a'i theulu wedi cael aduniad gyda staff Ysbyty Maelor Wrecsam i ddiolch yn bersonol iddynt am achub bywyd Niamh pan wnaeth ei chalon stopio ar ôl iddi fynd yn wael iawn a gorfod cael llawdriniaeth frys.

Ym mis Hydref 2021, fe wnaeth Niamh Williams gychwyn chwydu'n afreolus yn ddisymwth a deuai'n fwy anymatebol fyth, a chludwyd hi i Ysbyty Maelor Wrecsam mewn ambiwlans. Cafodd boen difrifol a disymwth yn ei stumog, ac yna, cychwynnodd ei stumog chwyddo. Pan oedd y meddygon yn cychwyn gosod tiwb ynddi i gynnal sgan CT i ganfod rhagor o wybodaeth, ataliodd ei chalon.

Cafodd Niamh ei dadebru gan y meddygon a'r nyrsys yn yr adran achosion brys cyn cael llawdriniaeth frys gan Mr Chris Battersby, Llawfeddyg Ymgynghorol yn Ysbyty Maelor Wrecsam, â chymorth dwsinau o aelodau o'r staff, ac fe wnaeth hynny achub ei bywyd.

Dywedodd Sarah Williams, mam Niamh: “Roedd Niamh yn holliach, ond ymhen ychydig funudau, roedd hi'n ddifrifol wael. Teimlais yn reddfol fod rhywbeth mawr o'i le. Diolch i'r nefoedd, fe wnaethom lwyddo i'w chludo i'r ysbyty mewn da bryd”.

“Roedd pawb yn Ysbyty Alder Hey yn gofyn i mi pwy oedd y llawfeddyg yn Ysbyty Maelor Wrecsam, oherwydd roedd wedi achub ei bywyd.”

Cafodd Niamh glot gwaed a wnaeth atal ei choluddyn cyfan rhag cael cyflenwad o waed, ac fe wnaeth hynny ryddhau tocsinau i'w chorff a gwanhau'r galon, gan beri iddi stopio.

Yn ystod y llawdriniaeth, bu'n rhaid tynnu cyfran sylweddol o goluddyn Niamh. Fe wnaeth tîm Gwasanaeth Trosglwyddo'r Gogledd Orllewin ei throsglwyddo i Ysbyty Alder Hay. Mae hwn yn wasanaeth rhanbarthol sy'n cludo plant sâl i unedau gofal dwys o amgylch y rhanbarth.

Wrth gyrraedd, hysbyswyd teulu Niamh fod mwy nag un o'i horganau yn methu, a dywedwyd y dylent fod yn barod am y gwaethaf. Ond fe wnaeth ei chyflwr wella, ac yn ddiweddarach, cafodd Niamh lawdriniaeth i adlunio ei choluddyn, a threuliodd wyth mis yn Alder Hey yn gwella.

Ychwanegodd Sarah: “Ymdrechodd pawb yn wych er budd Niamh. Mae Dr Liz Richards, sy'n gyfrifol am y gofal a roddir i Niamh erbyn hyn, wedi bod yn wych, ac rwy'n credu bod rhai o'r prif lawfeddygon yn Alder Hey wedi ysgrifennu at Mr Battersby i ddiolch iddo am roi'r llawdriniaeth iddi heb oedi, a dweud bod hynny wedi achub ei bywyd.”

Mae cyflwr Niamh wedi gwella, ac er ei bod hi'n gallu bwyta ac yfed, mae hi bellach yn cael cymorth trwy gyfrwng Maeth Cyflawn drwy'r Gwythiennau (TPN), maethiad ar ffurf hylif sy'n cael ei roi iddi trwy diwb sydd wedi'i gysylltu'n uniongyrchol â'i gwythiennau.

Ychwanegodd Sarah: “Niamh yw'r unig blentyn yn Sir y Fflint sy'n cael triniaeth TPN, a chawsom wybod eu bod yn amcangyfrif yn fras mai dim ond un mewn 14 miliwn yw'r tebygolrwydd y gwnaiff rhywbeth fel hyn ddigwydd. Mae'n rhywbeth mor brin, ni

allent ei gymharu ag unrhyw beth arall ychwaith. Bydd y driniaeth TPN yn dod i ben ymhen amser, ond bydd angen blynyddoedd o waith caled i sicrhau hynny.

“Mae'n anodd disgrifio pa mor sâl oedd Niamh pan gyrhaeddodd hi'r ysbyty, ond diolch i wybodaeth, ymroddiad a phroffesiynoldeb tîm yr Adran Achosion Brys yn Ysbyty Maelor Wrecsam, achubwyd bywyd Niamh. Hoffem fel teulu ddiolch yn arbennig i Dr Richards, y Meddyg Ymgynghorol Cyfrifol, i Mr Battersby y Llawfeddyg a'i dimau llawfeddygaeth, i Mel, y Meddyg Ymgynghorol a ymatebodd i Niamh i ddechrau yn yr ystafell ddadebru, ac i Carrie, y nyrs, a fu gyda Niamh trwy'r adeg.

“Hoffem ddiolch hefyd i dîm Gwasanaeth Trosglwyddo'r Gogledd Orllewin am drosglwyddo Niamh yn ddiogel i Uned Gofal Dwys Alder Hey, ac i'r timau o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sy'n sicrhau y gallwn ni reoli cyflwr Niamh gartref. Mae Niamh yn ffynnu ac mae hi'n gwenu bob amser. Ni wnaiff hi fyth anghofio'r bobl a achubodd ei bywyd, ac mae hi'n gwybod eu bod yn bobl arbennig iawn.”

Dywedodd Dr Richards: “Cyn gynted ag y cyrhaeddodd Niamh, gwyddem fod yn rhaid i ni weithredu'n ddi-oed. Mae'r cyflwr hwn yn eithriadol o brin ac mae ei hadferiad bron iawn yn wyrthiol. Mae'n hi'n eneth fach ddewr a chryf iawn.

“Fe wnaeth llawer o'r staff sy'n rhan o sawl tîm gwahanol yn yr ysbyty, yn cynnwys Theatrau a'r Adran Achosion Brys, helpu i ofal am Niamh. Hoffem ddiolch hefyd i Wasanaeth Cludo Cleifion y Gogledd Orllewin. Cafodd Niamh gymaint o gefnogaeth a chymorth ganddynt y noson honno, wrth iddynt ei throsglwyddo'n ddiolch i Ysbyty Alder Hey.”

Dywedodd Mr Battersby: “Roedd Niamh yn wael iawn pan ddaeth hi i'r ysbyty, a heb os, gallai'r canlyniad fod wedi bod yn wahanol iawn. Mae Niamh wedi gwneud cynnydd gwych ac rwy'n falch iawn dros Niamh a'i theulu ei bod hi'n edrych mor iach ac mor hapus erbyn hyn.”