Neidio i'r prif gynnwy

Tîm yr Iaith Gymraeg yn ennill gwobr genedlaethol am helpu ysgolion a phobl ifanc i ymgysylltu â byd gwaith

Mae ein Tîm Gwasanaethau’r Iaith Gymraeg wedi cipio gwobr Hyrwyddwr Gorau’r Gymraeg yn y Gweithle yng Ngwobrau Partneriaid Gwerthfawr Gyrfa Cymru eleni.

Cynhaliwyd y gwobrau cenedlaethol ym Mhrif Neuadd y Pierhead ym Mae Caerdydd ar 22 Tachwedd er mwyn dathlu ymdrechion cyflogwyr ledled Cymru sy’n gweithio mewn partneriaeth â Gyrfa Cymru i helpu ysgolion a phobl ifanc i ymgysylltu â byd gwaith.

Enwebwyd Tîm yr Iaith Gymraeg am y gwaith y mae’n ei wneud i ysbrydoli ac ysgogi pobl ifanc a’u hysbysu am y cyfleoedd sydd yna i ddilyn gyrfa o fewn y sector iechyd yng Ngogledd Cymru, yn enwedig y cyfleoedd i weithio’n ddwyieithog.

Wedi i’r tîm gyfrannu at nifer o ddigwyddiadau a drefnwyd gan Gyrfa Cymru mewn ysgolion uwchradd ledled Gogledd Cymru ym mis Mehefin a mis Gorffennaf eleni, bu’r ddau sefydliad yn cydweithio eto wedyn i drefnu taith ysgolion uwchradd ar raddfa fawr, a hynny i gyd-fynd ag Wythnos yr Iaith Gymraeg 2023 BIPBC, y mis diwethaf.

Dywedodd Eleri Hughes-Jones, Pennaeth Gwasanaethau’r Gymraeg: “Roeddem wrth ein bodd i dderbyn y wobr hon, sy’n cydnabod y gwaith pwysig y mae’r tîm yn ei wneud i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg ac amlygu’r cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith i gefnogi ein Gwasanaethau GIG yng Ngogledd Cymru.

 “Rydym eisiau annog cymaint â phosibl o bobl i ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg boed yn siaradwyr rhugl, yn ddysgwyr neu os ydynt dim ond yn gwybod ychydig o ymadroddion.

“Mae gallu cyfathrebu â chleifion yn eu hiaith gyntaf yn hanfodol bwysig yn BIPBC ac mae’r Bwrdd Iechyd yn ceisio recriwtio staff â sgiliau Cymraeg ar gyfer ystod eang o swyddi.”

Cynhaliwyd dros 20 sesiwn mewn 13 o wahanol ysgolion uwchradd ar draws Gogledd Cymru dros gyfnod o ddeg diwrnod ym mis Hydref i ddangos pwysigrwydd darparu gwasanaeth cyfrwng Cymraeg yn y sector iechyd, a dangos hefyd manteision dwyieithrwydd fel sgil cyflogaeth yn gyffredinol.

Mae Tîm yr Iaith Gymraeg yn bwriadu parhau i gydweithio’n agos â Gyrfa Cymru ac mae Taith Ysgol arall ar gyfer 2024 eisoes yn cael ei thrafod.

Yn ogystal â chyflwyniad cychwynnol gan aelod o Dîm yr Iaith Gymraeg, roedd pob un o’r sesiynau a gynhaliwyd fel rhan o’r daith ddiweddar hefyd yn cynnwys cyfraniadau gan aelodau o’r Tîm Iechyd Cyhoeddus a chyflwyniadau byr gan staff clinigol a fu’n trafod eu profiadau personol eu hunain o weithio'n ddwyieithog.