Neidio i'r prif gynnwy

Tîm garddio dawnus yn agor gardd brosthetig gyfeillgar newydd yn Wrecsam

Mae staff, myfyrwyr a defnyddwyr y Gwasanaeth Symudedd ac Osgo yn Wrecsam wedi bod yn gweithio gyda'i gilydd i osod offer awyr agored newydd sbon i gynorthwyo pobl sy'n dysgu sut i ddefnyddio prostheteg ac i greu gardd lesiant.

Dwy fyfyrwraig ar leoliad o Brifysgol Glyndŵr, sef Caroline Thomas, Therapi Galwedigaethol, a Jill Plumber, ffisiotherapi, gymerodd yr awennau ar y prosiect i dacluso, datblygu a gwella’r ardd y tu allan i’r Ganolfan Aelodau Artiffisial a Chyfarpar (ALAC) yn Ysbyty Maelor Wrecsam, a hynny er mwyn gwneud yr ardal yn un ddefnyddiol, tra’n cydweithio â'u defnyddwyr gwasanaeth.

Mae ALAC yn darparu amrywiaeth o wasanaethau i bobl â nam parhaol neu hirdymor, gan gynnwys Gwasanaeth Aelodau Artiffisial, osgo a symudedd (cadeiriau olwyn), gwasanaeth llygaid artiffisial, ac eraill.

Dywedodd Katie Davis, Arweinydd Clinigol Prostheteg: “Mae’r ardal allanol wedi’i thrawsnewid ac maen nhw wedi cydweithio ac ymgysylltu â defnyddwyr y gwasanaeth. Rydym wedi gweld manteision hynny’n glir. Mae defnyddwyr y gwasanaeth yn dweud wrthym bod hyn wedi gwella ansawdd eu bywyd.

“Fe gawson nhw grantiau a chyllid i brynu eitemau ar gyfer y prosiect, ac roedd hyn yn cynnwys teclyn garddio â choes hir er mwyn galluogi defnyddwyr y gwasanaeth i weithio yn yr ardd tra’n eistedd yn ogystal â sefyll. Derbyniom hefyd becyn ‘tyfu’ch gardd eich hun’ oddi wrth Cadw Cymru'n Daclus, ac maen nhw wedi gosod hwn i ni hefyd.

“Mae Caroline a Jill wedi gweithio’n ddiflino, a nod y gwasanaeth yw datblygu’r prosiect hwn gyda chefnogaeth staff presennol a myfyrwyr o Brifysgol Glyndŵr i ddod.”

Mae gan yr offer newydd ambell rwystr heriol sydd wedi'u cynllunio i efelychu amgylcheddau cerdded gwahanol, gan gynnwys llwybr cerdded gyda chobls, glaswellt a blociau, er mwyn helpu pobl â choes brosthetig i ddysgu sut i gerdded ar wahanol dirweddau. Mae yna hefyd risiau a llethr i helpu o ran osgo.

Roedd John, 81, yn arddwr brwd cyn i'w goes gael ei thorri i ffwrdd yn gynharach eleni ac ers hynny nid yw wedi gallu treulio amser yn ei ardd fel yr arferai wneud. Mae John yn hoffi tyfu ei fwyd ei hun, ac ymunodd â’r myfyrwyr i drawsnewid yr ardd, yn ogystal ag arwain gweithdy ar blannu ffa dringo, sydd wedi bod yn hwb mawr i’w hyder a’i gymhelliant.

“Mae garddio yn therapiwtig iawn,” meddai John, ac mae’n ffordd bleserus iawn i dreulio amser, mae’n help mawr i mi ymlacio.” Mae’r tîm yn cefnogi gobeithion John i ddechrau garddio gartref eto, fel rhan o’i therapi.