Neidio i'r prif gynnwy

Tîm Deieteg y Bwrdd Iechyd yn cefnogi'r nifer uchaf erioed o ysgolion i gynnal gweithgareddau Bwyd a Hwyl dros wyliau'r haf

31/08/2021

Bu mwy nag erioed o blant ledled Gogledd Cymru yn mwynhau gweithgareddau bwyd ac ymarfer corff yr haf hwn, gyda chynnydd o bron i 50% yn yr ysgolion a gymerodd ran yn y rhaglen arobryn Cyfoethogi Gwyliau Ysgol (School Holiday Enrichment Programme - SHEP).

Rhaglen addysg i ysgolion yw SHEP, sy’n cael ei chefnogi gan Ddietegwyr Iechyd y Cyhoedd a Chynorthwywyr Deieteg o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Cafodd y cynllun ei greu gyda’r bwriad o gael plant i gymryd rhan mewn sesiynau maeth a gweithgareddau ymarfer corff hwyliog yn ystod tair wythnos o’r gwyliau'r haf.

Meddai Andrea Basu, Gwasanaeth Arweiniol ar gyfer Deieteg Iechyd y Cyhoedd: "Mae’r cynllun SHEP wedi tyfu’n rhyfeddol. Fe ddechreuon ni yn 2016 gan gefnogi dim ond dwy ysgol yn Wrecsam a chydweithio gyda 15 ysgol ar draws Gogledd Cymru yn 2019. Yn 2020 oherwydd cyfyngiadau COVID, nid oedd y cynllun yn gallu cael ei gynnal o gwbl, ond yr haf hwn mae bron i 50% yn fwy o ysgolion wedi ymuno, gyda chyfanswm o 28 bellach yn cymryd rhan.”

Mae plant yn mwynhau gweithgareddau ymarferol Bwyd ac Ymarfer Corff megis gêm ras gyfnewid Bwyta'n Iach (Eatwell), sut i greu plât iach a dylunio eu pryd iach eu hunain, ac archwilio faint o siwgr sydd mewn byrbrydau a diodydd. Bob wythnos mae'r plant yn cael eu hannog a'u gwobrwyo am osod eu targed bwyd iach eu hunain, er enghraifft rhoi cynnig ar lysieuyn newydd.

Cefnogir SHEP yn ariannol gan Lywodraeth Cymru ac mae'r rhaglen yn cael ei chydlynu gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Yng Ngogledd Cymru mae'r bartneriaeth rhwng awdurdodau lleol, yr Adran Ddeieteg, y gwasanaeth prydau ysgol, gwasanaethau hamdden, a llawer o gyfranwyr eraill wedi arwain at dwf a llwyddiant y cynllun o flwyddyn i flwyddyn.

Cyn i'r cynllun ddechrau bob blwyddyn, mae'r tîm Deieteg yn gweithio gyda phob un o chwech awdurdod addysg lleol Gogledd Cymru i ddarparu hyfforddiant achrededig bwyd a maeth i athrawon a chynorthwywyr addysgu ynghylch sut i gynnal y sesiynau maeth. Mae ysgolion hefyd yn derbyn blwch mawr o adnoddau maeth a gemau, i gyd wedi'u paratoi gan y tîm Deieteg, yn cynnwys popeth sydd ei angen i gynnal sesiynau gyda'r plant.

Gwelodd Anwen Weightman, Ymarferydd Cynorthwyol Deieteg, drosti ei hun sut mae dwy ysgol yn Ynys Môn wedi elwa o'r hyfforddiant maeth a roddir gan y tîm.

Meddai Anwen: “Dywedodd y staff addysgu eu bod wedi dysgu llawer iawn am faeth ac roeddent wrth eu bodd ag ansawdd ein hadnoddau. Roeddent yn gallu rhannu eu gwybodaeth gyda'r plant yn ogystal â'u defnyddio i wella iechyd a lles eu teuluoedd eu hunain hefyd."

Mae’r gwaith paratoi ar gyfer SHEP yn cynnwys wythnosau o gynllunio, hyfforddiant, a gwaith caled i’r tîm ond dywed Gail Peters, Arweinydd y Tîm Iechyd Cyhoeddus a Deieteg yng Nghonwy a Sir Ddinbych "Mae’r gwaith caled yn talu ei ffordd pan fyddwn yn gweld plant yn chwerthin a chael hwyl wrth ddysgu am fwyta'n iach a mwynhau prydau ysgol maethlon blasus. Bu cymaint o uchafbwyntiau; plant yn blasu ffrwythau a llysiau nad oeddent erioed wedi'u bwyta o'r blaen ac yna'n mynd yn ôl

am fwy, y sioc ar eu hwynebau wrth ddysgu faint o giwbiau siwgr sydd mewn rhai o’u hoff fwydydd a diodydd a chwerthin iach wrth ymarfer corff fel rhan o gêm am fwydydd newydd ac iach”

Ymwelodd Sarah Powell-Jones, Ymarferydd Cynorthwyol Deieteg gydag Ysgol Uwchradd Cei Connah, i arsylwi sesiwn Bwyd a Hwyl ar waith.

Meddai Sarah "Roedd y plant yn cymryd rhan yn frwdfrydig ac yn amlwg yn dysgu o'r profiad. Gallent ddweud wrth eu hathro pam fod angen iddynt fwyta amrywiaeth o fwydydd a lle mae rhai bwydydd wedi'u gosod yn y Canllaw Bwyta'n Iach, sef ein model bwyd cenedlaethol. Roedd yr ysgol yn defnyddio eu cyfleusterau awyr agored yn wych i chwarae'r gêm gyfnewid a ddarparwyd gennym i'w helpu i ddysgu am fwyd a maeth.”

Gall gwyliau'r haf fod yn amser pan fydd rhai teuluoedd yn ei chael hi'n anodd fforddio neu gael gafael ar fwyd iach, ac efallai y bydd rhai plant yn profi arwahanrwydd cymdeithasol neu ddiffyg ysgogiad deallusol yn ystod y cyfnod hwn adref o’r ysgol. Y bwriad gyda SHEP 2022 yw tyfu a gwella fel y gall hyd yn oed mwy fyth o blant a theuluoedd elwa o gymryd rhan.