Neidio i'r prif gynnwy

Tim Cardiaidd yn ymuno a'r Dreigiau i gefnogi Mis y Galon

09/02/2023

Yn ystod mis Chwefror eleni, mae Tîm Adsefydlu Cardiaidd Ysbyty Maelor Wrecsam yn ymuno â chlwb pêl-droed Wrecsam a Sefydliad Prydeinig y Galon yng Nghymru i gefnogi Mis y Galon.

Bob blwyddyn, mae tua 2,800 o bobl yng Nghymru yn dioddef ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty, ac yn anffodus, dim ond 1 mewn 20 sy'n goroesi.

Felly, mae Clwb Pêl-droed Wrecsam, Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru ac Ysbyty Maelor Wrecsam yn dod at ei gilydd i godi ymwybyddiaeth am iechyd y galon a sgiliau achub bywyd syml.

Mae CPD Wrecsam yn herio Wealdstone dydd Sadwrn, 11 Chwefror, a bydd staff o'r Tîm Adsefydlu Cardiaidd ar y safle cyn y gêm i rannu taflenni gywbodaeth a chynnig gwiriad pwysedd gwaed AM DDIM. Bydd y gwiriadau yn digwydd y tu allan i Eisteddle Macron, ger Derbynfa Ffordd yr Wyddgrug.

Peidiwch â phoeni os na fyddwch chi yn y gêm, gallwch wirio eich pwysedd gwaed yn un o'n sesiynau galw heibio a gynhelir ar 15 a 22 Chwefror. Cynhelir y gwiriadau yn Swyddfeydd Ymddiriedolaeth Gymunedol CPD Wrecsam yng nghefn Eisteddle'r Brifysgol am 10.30am-11.30am ar 15 Chwefror a 3pm-4pm ar 22 Chwefror.

Yn ystod y mis, bydd chwaraewyr o dimau cyntaf y Dynion a'r Merched yn cael cyngor ymarferol ar sut i berfformio CPR drwy RevivR, sef offeryn hyfforddi CPR am ddim y Sefydliad Prydeinig y Galon, a’r cyntaf o’i fath.

Mae RevivR yn cynnig sesiwn hyfforddi CPR ar-lein y gellir ei wneud mewn chwarter awr unai gartref neu yn y gwaith. Mae’n dangos i chi sut a phryd i wneud CPR er mwyn achub bywyd - y cyfan sydd ei angen yw 15 munud, eich ffôn a chlustog. Dysgwch sut i wneud CPR drwy RevivR yma:http://revivr.bhf.org.uk

Dywedodd Phil Parkinson, Rheolwr y Tîm Cyntaf, "Mae CPR yn sgil bywyd pwysig ac mae hwn yn gyfle gwych i atgoffa pawb o hynny, a pha mor hawdd yw hi i achub bywyd rhywun. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r byd pêl-droed wedi gweld y gall hyn ddigwydd i unrhyw un. Mae gennym ni staff meddygol anhygoel ar gael mewn stadiwm ond nid yw hyn bob amser yn wir am y cartref neu'r gwaith. Felly, rydym ni'n annog pawb i ddysgu'r sgil hwn."

Dywedodd Jacqueline Cliff, Nyrs Adsefydlu Cardiaidd: "Rydym yn falch iawn o gael cyfle i weithio gyda Thîm Pêl-droed Wrecsam a Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru i godi ymwybyddiaeth am iechyd y galon, ac i helpu pobl i ddysgu sgiliau achub bywyd.

"Rydym yn edrych ymlaen at weld cefnogwyr pêl-droed yn y Cae Ras cyn y gêm dydd Sadwrn (11 Chwefror). Gall unrhyw un ddod i siarad gyda ni. Byddwn yn tynnu sylw at symptomau trawiad ar y galon, yn trafod pwysedd gwaed ac yn cynnig cyngor ar sut y gall pobl ofalu am eu calonnau."

Dywedodd Rhodri Thomas, Pennaeth Sefydliad Prydeining y Galon Cymru: "Rydym ni wrth ein bodd bod CPD Wrecsam yn cymryd rhan flaenllaw wrth godi ymwybyddiaeth am iechyd y galon a phwysigrwydd CPR yn y gymuned. RevivR yw

ein hofferyn hyfforddi CPR ar-lein cyntaf o’i fath. Mae wedi’i gynllunio i ddysgu sgiliau achub bywyd mewn dim ond 15 munud.

“Mae ataliad ar y galon yn gallu digwydd unrhyw le ac ar unrhyw bryd. Gall CPR eich helpu i achub bywyd, ac mae RevivR yn ffordd hawdd, gyflym ac am ddim i ddysgu. Y cyfan sydd ei angen yw 15 munud a chlustog.”

Am ragor o wybodaeth am Fis y Galon a gwasanaethau lleol defnyddiwch y ddolen hon neu sganiwch y cod QR isod i ddysgu CPR drwy RevivR.