Neidio i'r prif gynnwy

Therapydd o Ganada yn ennill Gwobr y Gymraeg

Mae Therapydd o Ganada sydd wedi cael ei disgrifio fel 'esiampl wych' i eraill ddysgu'r Gymraeg wedi ennill gwobr arbennig.

Manuela Niemetsheck, sy'n hanu o Vancouver yng Nghanada, oedd enillydd Gwobr y Gymraeg eleni yng Ngwobrau Cyrhaeddiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Treuliodd y Seicotherapydd Celf, sy'n gweithio yn Hergest ym Mangor, amser yn dysgu Cymraeg trwy ddosbarthiadau cymunedol a chyrsiau yng nghanolfan dysgu Cymraeg Nant Gwrtheyrn cyn dechrau yn ei swydd gyda'r Bwrdd Iechyd.

Dywedodd Beth Jones, Tiwtor y Gymraeg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a enwebodd Manuela ar gyfer y wobr: "Caiff sesiynau unigol Therapi Celf Manuela eu darparu yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac mae sesiynau grŵp yn cael eu hwyluso gan ddefnyddio model cyflwyno dwyieithog, a hynny'n aml mewn grwpiau iaith cymysg.

"Mae hyn yn arloesol, gan fod y Saesneg yn aml yn gallu troi'n brif gyfrwng gweithgareddau mewn grwpiau iaith cymysg. Nod y model dwyieithog y mae Manuela wedi'i sefydlu yw sicrhau bod y Gymraeg yn dal i fod yn bresennol ac i gynorthwyo siaradwyr Cymraeg ar unrhyw lefel yn y grŵp i deimlo eu bod yn rhan o'r cyfan a bod croeso iddynt gyfrannu yn eu dewis iaith.

"Yn ystod pandemig Covid-19, daeth y grŵp therapi celf dwyieithog i ben dros dro a chafodd sesiynau eu cynnal ar sail un i un. Gan weithio o bell, gwnaeth Manuela barhau i gynnig sesiynau yn Gymraeg gyda chleifion Cymraeg eu hiaith.

"Hefyd, yn ystod cyfnod Covid-19, dechreuodd Manuela gynnig goruchwyliaeth rithiol i gymheiriaid gyda Therapydd Celf Cymraeg ei iaith arall er mwyn parhau i edrych ar brofiadau cleifion, darparu'r gwasanaeth ac ymarfer geirfa Gymraeg sy'n benodol i'r pandemig, PPE a darpariaeth ar-lein.

"Mae Manuela yn esiampl wych i eraill ddysgu'r Gymraeg. Llongyfarchiadau Manuela!"

Dywedodd Rhys Evans, o noddwr y wobr Ateb: "Mae'r fantais i gleifion allu cael mynediad at ofal iechyd a chyngor yn eu dewis iaith i'w gweld yn amlwg. Hoffwn longyfarch pob un o'r tri a gyrhaeddodd y rownd derfynol am eu hymdrechion i gefnogi a grymuso pobl sy'n manteisio ar wasanaethau'r GIG yng Ngogledd Cymru.

"Yn benodol, llongyfarchiadau i Manuela am fynd y filltir ychwanegol yn ei hymdrechion, a da gweld ei bod wedi cael cydnabyddiaeth am hynny trwy ennill y wobr hon."