Neidio i'r prif gynnwy

Teyrnged i gydweithiwr annwyl iawn yn Ysbyty Maelor Wrecsam

Gyda thristwch mawr, gallwn gadarnhau y bu farw Andy Treble, Cynorthwyydd Theatr yn Ysbyty Maelor Wrecsam.

Yn drist iawn, bu farw Andy ar yr Uned Gofal Critigol ddydd Mercher 15 Ebrill ar ôl profi’n bositif am COVID-19.

Roedd Andy, 57, wedi gweithio yn Ysbyty Maelor Wrecsam ers bron i 40 mlynedd ac roedd gan ei gydweithwyr feddwl mawr ohono.

Disgrifiodd ei chwaer, Maria Molloy, ei brawd fel ‘dyn caredig’ a roddodd ei fywyd i’w broffesiwn, ac roedd ganddo ‘wên ar ei wyneb bob amser’.

Dywedodd: “Roedd Andy wrth ei fodd yn gweithio yn y Maelor, ei gydweithwyr oedd ei deulu arall.

“Roedd ganddo natur garedig iawn ac roedd yn rhoi eraill yn gyntaf bob amser. Roedd bob amser yn chwerthin a gwenu, roedd yn ddyn mor dda.

“Mae ei golli wedi’n llorio ond hoffem ddiolch i’r tîm Gofal Critigol a wnaeth eu gorau glas dros Andy, ac yn fwy na dim, oedd yno iddo ar y diwedd un. Byddwn yn ddiolchgar iddynt am byth.”

Mae merch 17 oed Andy, Emily Treble, hefyd wedi mynegi ei thristwch gan ddweud y byddai colled fawr ar ôl ei thad.

Dywedodd: “Roedd yn ddyn mor hyfryd, rydw i’n falch o’i alw’n dad i mi.

“Mae wedi fy helpu drwy gymaint ac mae wedi bod yno i mi bob amser.

“Roedd bob amser yn codi fy nghalon drwy wylio ‘Laurel and Hardy’ gyda’n gilydd. Roedd mor garedig, mor gariadus a bydd colled ar ei ôl am byth.”

Roedd gan Andy dair chwaer arall hefyd, Caroline, Pauline a Linda.

Dywedodd David Bevan, Rheolwr Theatr yn Ysbyty Maelor Wrecsam: “Dymuna’r tîm anfon eu cydymdeimlad diffuant at deulu Andy. Rydym yn meddwl amdanoch ac yn gweddïo drosoch.

“Roedd Andy yn gydweithiwr annwyl iawn ac yn ffrind i ni gyd. Mae ei farwolaeth wedi gadael bwlch yn ei deulu theatr a bydd gan bawb hiraeth amdano. Roedd Andy yn aelod gofalgar, trugarog o’r tîm, oedd yn gweithio’n galed bob amser ac roedd ganddo synnwyr digrifwch oedd yn ein cyffwrdd i gyd.

“Gorffwys mewn hedd Andy – ein cydweithiwr a’n ffrind”.

Ychwanegodd Imran Devji, Rheolwr Gyfarwyddwr Ysbyty Maelor Wrecsam: “Ar ran y staff yn yr ysbyty a’r Bwrdd Iechyd cyfan, hoffwn estyn ein cydymdeimlad didwyll â theulu Andy. Rydym yn meddwl amdanynt yn y cyfnod anodd hwn.

“Roedd Andy yn aelod gwerthfawr o’r tîm ac roedd ei gydweithwyr yn hoff iawn ohono.

“Rydym yn hynod drist o golli aelod mor annwyl o’n staff. Bydd gennym i gyd hiraeth mawr ar ei ôl.”