Neidio i'r prif gynnwy

Teulu dynes 104 mlwydd oed yn diolch i dîm Ysbyty Gwynedd am eu caredigrwydd a'u gofal

22 Mehefin, 2023

Mae dynes 104 mlwydd oed wedi llwyddo i ailafael yn ei diddordeb, sef canu'r piano, diolch i lawdriniaeth lwyddiannus ar ei llaw gan y tîm yn Ysbyty Gwynedd.

Mae Stephanie Hilda Watts, a fydd yn troi'n 105 mlwydd oed y mis Hydref hwn, yn hoffi cadw'n heini o amgylch ei chartref yn Nefyn ym Mhen Llŷn, ond roedd ei llaw anffurfiedig yn golygu ei fod yn hynod o anodd iddi hi fwynhau ei diddordebau.

Dywedodd ei merch, Judi Kerr: “Mae mam yn wastad wedi cadw'n heini iawn, gan fwynhau teithiau cerdded hir a chanu'r piano.

“Mae ei meddwl yn wastad wedi bod yn weithgar a bydd hi'n cwblhau croesair yn ddyddiol. Mae hi hefyd wedi mwynhau bod yn aelod o Grŵp Celf Sarn Mellteyrn, a mwynhau gweld ei gwaith celf yn y Ganolfan yn Nefyn.

“Roedd hi'n casáu ei llaw anffurfiedig 'lympiog' ac roedd hi wrth ei bodd pan dynnwyd y lwmp o'r diwedd gan lawfeddyg gwych a fu mor garedig wrthi.

“Mae'r llawdriniaeth wedi gwella ei bywyd yn sylweddol, ac er bod arthritis ar ei dwylo, ar ôl tynnu'r lwmp, ni fydd hi bellach yn gorfod edrych arno pan fydd hi'n canu'r piano neu'n datrys ei chroesair. Roedd yn ei hatal rhag mwynhau'r pethau sydd wrth ei bodd, ond diolch i'r llawdriniaeth, mae ei bywyd yn well.”

Dywedodd ei llawfeddyg, Mr Raghunandan Kanvinde, Llawfeddyg Ymgynghorol ym maes Orthopaedeg, sydd wedi ymddeol yn ddiweddar, ei fod yn falch iawn fod y llawdriniaeth wedi dylanwadu mor gadarnhaol ar fywyd Stephanie.

Dywedodd: “Mae Stephanie yn glaf eithriadol. Pan wnes i gwrdd â hi am y tro cyntaf y llynedd, dywedodd ei bod yn dymuno cael tynnu chwydd mawr o'i llaw. Roedd y chwydd yn agos at faint pêl golff ac roedd yn ei chyfyngu'n gorfforol trwy leihau gweithrediad ei llaw ac yn ei chyfyngu'n feddyliol trwy ei hatal rhag mwynhau ei hoff weithgareddau megis canu'r piano.

“Fe wnaethom drafod opsiynau o ran triniaeth lawfeddygol â hi, a gan ystyried ei hoedran a'i chyflwr iechyd, cytunwyd y gallai gael llawdriniaeth dan ddylanwad anaesthetig lleol. Roedd hynny'n ymdrech ar y cyd rhwng yr Anesthetydd, Dr Samie Enani, a minnau, i gyflenwi digon o'r anaesthetig iddi i sicrhau ei bod yn hollol effro ac yn hollol ddi-boen yn ystod y driniaeth.

“Roedd y chwydd yn amlwg iawn a llwyddwyd i'w unioni yn ddidrafferth. Ni chynhyrfodd hi o gwbl trwy gydol y llawdriniaeth a chafodd sgwrs dda â'r staff nyrsio. Llwyddodd i wneud hynny er gwaethaf y rhwymyn tynhau ar ei braich a goleuadau llachar y theatr yn disgleirio o'i chwmpas. Tynnwyd y tiwmor a chadarnhawyd yn ddiweddarach mai briw anfalaen oedd y chwydd.

“Mae'n dda gennyf wybod ei bod hi'n fodlon â chanlyniad y llawdriniaeth. Bellach, mae ganddi graith anweladwy ac mae hi'n fodlon ei byd yn canu ei hoff offeryn, y piano.”

Mae teulu Stephanie wedi canmol y tîm a fu’n gofalu am eu mam ac am ei helpu i ailafael yn ei diléit pennaf.

“Dymunaf ddiolch o galon i'r tîm a fu'n gofalu am ein mam tra bu hi yn yr ysbyty - mae'n dda cael canu eu clodydd,” ychwanegodd Judi.