Neidio i'r prif gynnwy

Tad ifanc a wrthododd i gael brechlyn yn annog eraill i gael eu pigiad o'i wely gofal dwys

Mae tad 42 mlwydd oed sy'n derbyn triniaeth gofal dwys ar ôl bod yn ddifrifol wael gyda COVID-19 yn dweud ei fod yn difaru gwrthod y brechlyn fisoedd ynghynt.

Mae Artur Brylowski, sy'n frwd yn y gampfa, yn ddyn ffit ac iach ond ar ôl dal COVID-19 tua diwedd Gorffennaf 2021, cafodd ei ruthro i Ysbyty Maelor Wrecsam gydag anawsterau anadlu.

Cafodd y tad i ddau o Wrecsam brawf positif am y firws wrth gyrraedd yr ysbyty, a chafodd ei drosglwyddo i'r Uned Gofal Critigol oherwydd difrifoldeb ei gyflwr.

Dywedodd: "Dechreuais deimlo'n wael gartref tua wythnos cyn i fi ddod i'r ysbyty. Cymerais dabledi lladd poen ond ni wnaeth hynny unrhyw wahaniaeth, ac roeddwn yn mynd i deimlo'n fwy sâl.

"Roedd fy ngwraig yn poeni'n ofnadwy amdanaf oherwydd fy mod i'n cael trafferth anadlu felly galwodd ambiwlans.  Dydw i ddim yn cofio llawer ar ôl hynny."

Dechreuodd Artur ddirywio ychydig ddyddiau'n ddiweddarach yn yr Uned Gofal Critigol a thrafododd ei Feddyg Ymgynghorol, Dr Andy Campbell, y posibilrwydd y byddai'n cael ei roi ar beiriant anadlu.

"Doeddwn i byth yn disgwyl bod mor sâl â hyn, rydw i wedi cael ffliw o'r blaen ond roedd hyn yn wahanol, allwn i ddim anadlu - roedd yn frawychus.

"Dywedodd y meddyg wrthyf fod fy nghyflwr yn dirywio a bod posibilrwydd y byddwn yn cael fy rhoi ar beiriant anadlu gan fy mod yn cael cymaint o drafferth gyda fy anadlu. Roedd hyn yn fy nychryn - roeddwn i'n meddwl na fyddwn i'n gweld fy nheulu eto," ychwanegodd Artur.

Yn flaenorol, roedd Artur wedi gwrthod y brechlyn COVID pan gafodd ei gynnig gyntaf i bobl dros 40 mlwydd oed yn ôl ym mis Ebrill, credai y byddai'r firws ond yn effeithio'n ddifrifol ar y boblogaeth hŷn a phe bai'n dal COVID ni fyddai'n mynd yn ddifrifol wael.

Dywedodd: "Mae'n anodd dweud pam y gwrthodais y brechlyn; nid oeddwn i yn ei erbyn - roeddwn i'n teimlo iddo gael ei ruthro allan yn gyflym ac efallai nad oedd yn ddiogel.

"Roedd yna lawer o bethau hefyd ar y cyfryngau cymdeithasol a wnaeth fy rhwystro, pobl yn dweud pethau gwahanol, rhai yn dweud eu bod yn cael y brechlyn ac eraill yn dweud wrth bobl am beidio.

"Roeddwn i'n meddwl y byddwn i'n iawn, 42 mlwydd oed ydw i ac rwy'n iach, dw i'n mynd i'r gampfa yn rheolaidd, dydw i ddim yn ysmygu nac yn yfed alcohol.

"Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf fe glywsoch yn bennaf mai'r genhedlaeth hŷn a aeth yn sâl iawn - ni feddyliais erioed y byddai hyn yn digwydd i fi."

Dywed Dr Campbell, sy’n Arweinydd Clinigol yn Uned Gofal Critigol Ysbyty Wrecsam Maelor eu bod wedi gweld cynnydd yn y bobl iau sy'n cael eu derbyn gyda’r firws.

Dywedodd: "Mae Artur yn ddyn ifanc, mae'n ffit ac yn iach ac wedi dod atom gydag achos COVID difrifol.

"Ar un adeg roedd siawns uchel iawn y gallai fod wedi cael ei roi ar beiriant anadlu gan fod ei lefelau ocsigen mor isel. Roedd hon yn sgwrs anodd iawn ei chael gyda rhywun mor ffit ac ifanc, yn gwybod y gyfradd marwolaethau uchel mewn cleifion COVID wedi'u hawyru.

"Yn anffodus dewisodd Artur beidio â chael ei frechu ac mae'r hyn sydd wedi digwydd iddo wir yn dangos y goblygiadau o beidio â chael ei frechu a'r effaith y gall ei chael ar rywun mor ifanc a ffit."

Mae Artur wedi treulio tua phythefnos yn yr ysbyty ac mae disgwyl y bydd ei adferiad yn cymryd llawer o wythnosau.

Dywedodd: "Pan fyddaf yn gadael yr ysbyty, byddaf yn ymgynghori gyda fy Meddyg Teulu ynglŷn â'r amser gorau i gael y brechlyn. 

"Mae'r profiad hwn wedi dangos i mi pa mor beryglus y gall y firws hwn fod i bobl o unrhyw oed.

"Bydd pobl nad ydyn nhw eisiau'r brechlyn yn bodoli drwy'r amser ond rwy'n credu bod y buddion o'i gael yn gorbwyso unrhyw risg fach a allai fod.

"Rwy’n gobeithio, trwy rannu fy stori, y bydd yn gwneud i bobl nad ydyn nhw wedi cael y brechlyn feddwl yn wahanol, rwy’n sicr yn difaru peidio â chael fy un i."

Mae Dr Campbell yn adleisio galwadau Artur i annog y rhai sy’n parhau heb eu brechu i gael eu pigiad cyn gynted â phosibl.

"Rydym yn ffodus iawn bod y brechlyn ar gael i ni bellach i geisio atal yr achosion mwyaf difrifol rhag ffurfio.

“Dydych chi ddim yn gwybod sut rydych chi'n mynd i ymateb i COVID cyn ei bod hi'n rhy hwyr, fy neges i'r cyhoedd yw credu yn y wyddoniaeth a chael eich brechlyn cyn ei bod hi'n rhy hwyr,” ychwanegodd.  

Gallwch drefnu eich brechlyn drwy ymweld â'n gwefan neu gallwch ddod o hyd i wybodaeth am ein clinigau galw heibio yma.