Neidio i'r prif gynnwy

Staff arlwyo a gafodd eu hanfon i'r ysbyty oherwydd COVID-19 yn diolch i'w cydweithwyr clinigol am achub eu bywydau

Bu i’r staff yn Ysbyty Gwynedd glapio a chymeradwyo wrth i ddau o’u cydweithwyr gael eu rhyddhau o’r ysbyty’r mis hwn ar ôl trechu COVID-19.

Bu i’r pen-cogydd Danny Monserrate, 53, a’r Cynorthwyydd Arlwyo Rose Humphreys, 68, sy’n gweithio yn yr Adran Arlwyo yn Ysbyty Gwynedd, adael yr ysbyty yn emosiynol ar ôl gwella o’r firws.

Treuliodd Danny, sy’n dad i bedwar o blant, fis yn yr ysbyty ar ôl dal COVID-19 ac angen triniaeth arbenigol ar yr Uned Gofal Dwys.

Dywedodd: “Roeddwn wedi teimlo’n wael am ychydig o ddyddiau ac fe wnes i fy ngorau i hunan-reoli drwy gymryd meddyginiaeth dros y cownter.

“Yn anffodus dechreuais waethygu a phenderfynodd fy merch ffonio am ambiwlans, cefais fy asesu gan y parafeddygon ac aethant a fi yn syth i Ysbyty Gwynedd.

“Ar ôl hynny nid wyf yn cofio rhyw lawer, ond rwy’n cofio rhywun yn dweud wrthyf fod angen i mi fynd ar yr Uned Gofal Dwys yn eithaf sydyn gan fy mod yn cael trafferth anadlu. 

“Nid oeddwn yn ymdopi ar y peiriant CPAP felly cefais fy rhoi ar beiriant anadlu am oddeutu 15 diwrnod.  

“Yn amlwg, nid wyf yn cofio unrhyw beth am yr amser pan oeddwn ar y peiriant anadlu, ond dywedodd fy ngwraig wrthyf fod y staff wedi bod yn arbennig o ran cadw mewn cysylltiad gyda hi a rhoi gwybod iddi sut oeddwn yn ymdopi.

“Ni allaf ddiolch i’r staff ddigon, yn ogystal â fy nheulu bu iddynt hwythau roi’r cryfder i mi drechu’r firws a pheidio â gadael iddo fy nghuro hefyd.

“Rwy’n ddyledus iawn iddynt, bu iddynt achub fy mywyd.”

Mae Rose, sydd wedi gweithio yn Ysbyty Gwynedd am 34 blynedd, yn gwella gartref ar ôl bron i ddeufis yn yr ysbyty.  

Dywedodd: “Ar ddechrau mis Ebrill nid oeddwn yn teimlo’n dda o gwbl a chefais fy nerbyn i’r ysbyty.

“Yn wreiddiol cefais fy nerbyn i’r ward COVID ond dechreuais fynd mor wael nes oedd angen i mi gael fy symud i’r Uned Gofal Dwys.

“Wedyn cefais fy rhoi ar beiriant anadlu am 24 diwrnod, ar un pwynt nid oedd y staff yn obeithiol a rhoddwyd gwybod i’m chwaer bod angen iddi baratoi ar gyfer y gwaethaf.

“Yn ffodus iawn llwyddais i wneud tro pedol a dechrau gwella diolch i’r staff arbennig ar yr uned.

“Rwy’n falch iawn o fod yn ôl gartref ac yn gwella, rwy’n dal yn fyr o wynt bob hyn a hyn ond rwy’n gwybod y bydd yn cymryd amser i fynd yn ôl i’r  normal.”

Yn ogystal â diolch i’r staff yn yr ysbyty, mae Danny a Rose yn gobeithio y bydd eu stori yn annog y cyhoedd i barhau i ddilyn canllawiau’r llywodraeth i helpu i atal lledaeniad COVID-19.  

Ychwanegodd Rose, “Ni feddyliem erioed y byddai hyn yn digwydd i ni, dylai pawb gymryd y firws hwn o ddifrif a chadw at y canllawiau sydd ar waith i amddiffyn pob un ohonom, dyma’r unig ffordd allwn helpu i atal y firws rhag lledaenu.”

Ychwanegodd Alun Owen, Rheolwr Arlwyo yn Ysbyty Gwynedd: “Roeddem yn falch iawn o weld Rose a Danny yn cael mynd yn ôl i’w cartrefi ar ôl treulio cyfnod hir yn yr ysbyty ac rydym yn dymuno’r gorau iddynt wrth iddyn nhw wella.  

“Hoffwn achub ar y cyfle i ddiolch i bob un o’n staff arlwyo sydd wedi chwarae rôl bwysig yn ystod y pandemig hwn. Rydym yn edrych ymlaen at gael Danny a Rose yn ôl gyda ni unwaith eto pan fyddant wedi gwella’n llwyr.”