Neidio i'r prif gynnwy

'Rwy'n teimlo fy mod wedi cael fy mywyd yn ôl' – treial clinigol yn Ysbyty Gwynedd yn profi'n llwyddiant ymysg cleifion dialysis

31 Hydref, 2023 

Mae treial ymchwil newydd ar y gweill yn Ysbyty Gwynedd sydd â'r nod o wella ansawdd bywyd i oedolion â chlefyd yr arennau trwy gynnal dialysis yn ystod y nos.  

Mae’r Astudiaeth Nightlife yn dreial clinigol sy’n asesu a yw dialysis dros nos, a gyflawnir deirgwaith yr wythnos mewn ysbyty, yn gwella ansawdd bywyd pobl â methiant yr arennau o’i gymharu â’r bobl sy’n cael sesiynau dialysis byrrach yn ystod y dydd.

Ysbyty Gwynedd yw’r ysbyty cyntaf yng Nghymru i gymryd rhan yn y treial hwn, a fydd yn cael ei gynnal yn yr Uned Arennol dros y chwe mis nesaf.

Mae chwech claf, pump gwryw ac un fenyw yn cymryd rhan, ac maent eisoes yn teimlo’r manteision. Mae bob un ohonynt bellach yn derbyn eu dialysis am wyth awr, tair gwaith yr wythnos yn hytrach na phedair awr, tair gwaith yr wythnos. Mae pedwar claf hefyd yn derbyn dialysis yn ystod y dydd fel rhan o'r treial, sy'n galluogi’r ymchwilwyr i gymharu'r ddau grŵp.

Mae Dr Abdulfattah Alejmi, Neffrolegydd Ymgynghorol yn dweud fod dialysis yn ystod y nos, hyd yma, wedi rhoi gwell ymdeimlad cyffredinol o les i gleifion, gyda mwy o amser ar gael yn ystod y dydd i gymdeithasu, gweithio a gofalu am eraill.

Dywedodd: “Yn y rhan fwyaf o achosion, mae’r apwyntiadau hemodialysis rydym yn eu cynnig ar hyn o bryd yn para am bedair awr, tair gwaith yr wythnos, gydag amser teithio ychwanegol ar ben hynny ac ychydig iawn o hyblygrwydd.

“Mae deiet a faint o hylifau mae’r cleifion yn cael yfed yn gyfyngol iawn yn aml, ac er gwaethaf manteision y driniaeth, gall cleifion ddioddef yn gyson o symptomau fel blinder, sy’n effeithio ar ansawdd eu bywydau.

“Mae’r treial wedi profi’n llwyddiant hyd yma, ac mae’r holl gleifion sydd wedi cymryd rhan wedi rhoi adborth rhagorol. Roeddwn mor falch o glywed gan un o’r cleifion ei bod yn teimlo ei bod wedi cael ei bywyd yn ôl, a nawr mae ganddi amser i weld ei ffrindiau yn ystod y dydd.

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld y canlyniadau ar ddiwedd y treial, a fydd yn ei dro yn ein helpu i gynllunio sut y gallwn gynnig dialysis mewn ffordd wahanol i’n cleifion ledled y DU yn y dyfodol.”

Daeth Hajar Al Ghabari, sy’n 26 oed o Fangor i fyw i Ogledd Cymru oddeutu tair blynedd yn ôl wedi ffoi o’r rhyfel yn Syria. Ar ôl cael diagnosis o glefyd yr arennau yn ei harddegau mae hi bellach yn aros am ei hail drawsblaniad ar ôl i’r trawsblaniad cyntaf fethu.

Ers iddi ymuno â’r treial dywedodd bod ansawdd ei bywyd wedi gwella’n aruthrol.

“Pan fyddaf yn derbyn fy nhriniaeth yn ystod y dydd rwy’n teimlo’n llawer mwy blinedig ac rwy’n dioddef o gur pen, felly mae cael fy nhriniaeth yn ystod y nos pan fyddaf yn cysgu wedi gwneud cymaint o wahaniaeth i mi.

“Mae gen i lawer mwy o amynedd ac amser yn ystod y dydd nawr. Gallaf fynd i dreulio amser gyda fy ffrindiau a fy nheulu ac rwy’n teimlo cymaint yn fwy egnïol - rwy’n teimlo fy mod wedi cael fy mywyd yn ôl,” meddai.

Mae astudiaethau'n awgrymu y gall dialysis dros nos ddod â llawer o fanteision i gleifion, gan gynnwys canlyniadau profion gwaed gwell, gwell rheolaeth ar bwysedd gwaed, gwell iechyd y galon a llai o feddyginiaethau.

Ychwanegodd Dr Alejmi: “Rydym yn gwybod y gall cymryd rhan mewn astudiaethau wella ansawdd bywyd a gwella gofal cleifion. Hoffem ddiolch i’n cleifion am gymryd rhan yn y treial cyffrous hwn, trwy wneud hynny maent yn helpu i gyfrannu at iechyd a lles eraill yn y dyfodol.

“Ni fyddai’r treial yn bosibl ychwaith heb gefnogaeth nyrsys arbenigol a’r tîm ymchwil sydd wedi croesawu’r her ac achub ar y cyfle i gyflwyno’r treial clinigol hwn.”

Dywedodd Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cymorth a Chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: “Mae’r astudiaeth hon yn enghraifft wych o waith ymchwil yn rhan o daith triniaeth y claf. Ni fyddai’n bosibl heb gyfraniad hollbwysig y staff ymchwil clinigol ac ymarferwyr arbenigol.”

I wybod rhagor am Astudiaeth NightLife edrychwch yma.