Neidio i'r prif gynnwy

Robin ymroddedig o Ysbyty Gwynedd yn ennill gwobr y Bwrdd Iechyd

Mae un o wirfoddolwyr ysbrydoledig y Robiniaid yn Ysbyty Gwynedd wedi'i enwi'n seren y Bwrdd Iechyd.

Ryw bum mlynedd yn ôl, dechreuodd Andy Fewings wirfoddoli yn yr ysbyty er mwyn diolch i staff am y gofal a'r driniaeth a gafodd ar ôl cael diagnosis canser.

Mae'n treulio un diwrnod yr wythnos yn gwirfoddoli ar Ward Alaw a'r llall gyda'r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol yn yr ysbyty.

Cafodd cyn weithiwr y gwasanaeth post, sy'n 71 oed ei enwebu am wobr Seren Betsi gan Nia Lloyd-Roberts, Cydlynydd Gwirfoddolwyr, am ei ymroddiad yn cefnogi'r timau a'r cleifion yn yr ysbyty.

Dywedodd: “Bob dydd Mercher, bydd Andy yn rhoi o'i amser fel gwirfoddolwr Robin i Ward Alaw yn Ysbyty Gwynedd. Bob dydd Iau, mae'n gwirfoddoli gyda'r RVS gan roi cymorth yn y Lolfa Drosglwyddo lle bydd cleifion yn aros am gludiant ysbyty unwaith y cânt eu rhyddhau o'r ysbyty.

“Mae hefyd yn cynnal a chadw gardd y ward er mwyn i gleifion allu mwynhau bod yn yr awyr agored.

“Mae hefyd yn fentor ardderchog i wirfoddolwyr newydd ac nid yw'n derbyn dim ond canmoliaeth ganddynt. Nid yn unig y mae'n gwirfoddoli ar y ward ei hun ond bydd hefyd yn sicrhau bod cleifion ar Uned Ddydd Alaw wedi cael rhywbeth i fwyta ac yfed, yn ogystal â chwmni os bydd angen tra byddant yn derbyn triniaeth.

“Mae ei stori'n ysbrydoledig ac mae wedi bod yn wirfoddolwr dibynadwy ac ymroddedig sy'n cael effaith bositif ar y cleifion ar y ward.

“Bydd Andy'n mynd y filltir ychwanegol o ran y gwerthoedd sefydliadol ac mae'n rhoi'r claf yn gyntaf yn wirioneddol. Mae Andy yn gwybod o brofiad personol y gall cyfnod yn yr ysbyty fod yn frawychus iawn felly mae unrhyw beth mae’n gallu ei wneud i leddfu gofid neu’r teimlad o unigedd ac unigrwydd yn werth bob eiliad."

Mae gwobr fisol Seren Betsi yn cydnabod gwaith caled ac ymroddiad staff a gwirfoddolwyr GIG Gogledd Cymru.

Dywedodd Andrew: “Mae'n hynod braf derbyn y wobr hon, ac roedd yn wirioneddol annisgwyl.

“Y prif reswm rydw i'n gwirfoddoli yw er mwyn rhoi'n ôl i staff am yr holl gymorth a'r gofal y gwnaethant ei gynnig pan es i drwy fy nhriniaeth ar ôl cael diagnosis canser yn 2013.

“Mae oherwydd y staff yn y Bwrdd Iechyd fy mod i yma heddiw, 'does byth ddigon y galla' i ei wneud i ddiolch iddyn nhw, felly trwy wirfoddoli, rydw i'n teimlo fy mod i'n rhoi rhywbeth yn ôl er mwyn dangos fy niolchgarwch."

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid y Bwrdd Iechyd, Sue Hill, y wobr i Andrew.

Dywedodd: “Hoffwn i longyfarch i Andrew ar ei wobr, mae'n enghraifft ardderchog o'r effaith gadarnhaol y gall ein gwirfoddolwyr ei gael ar ein cleifion a'n staff.

“Mae'n gwneud pethau gwych i'n Bwrdd Iechyd ac mae rhoi cleifion yn gyntaf bob amser."