Neidio i'r prif gynnwy

Rhoi Medal yr Ymerodraeth Brydeinig i nyrs am ei hymroddiad i wasanaethau iechyd meddwl

06/10/2023

Cafodd Rheolwr Nyrsio Seiciatrig ei chydnabod ar Restr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd ddiwethaf am ei 43 mlynedd o wasanaeth ym maes iechyd meddwl ac mae wedi derbyn Medal yr Ymerodraeth Brydeinig (BEM).

Mae June Lovell wedi datblygu dau wasanaeth unigryw yng Ngogledd Cymru - Gwasanaeth Cymorth Meddyginiaeth ar Bresgripsiwn a Gwasanaeth Cwnsela Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol.

Ym 1994, sefydlodd June y gwasanaeth meddyginiaeth sy'n canolbwyntio ar bobl sy'n ddibynnol ar feddyginiaeth ar bresgripsiwn. Trwy ei brwdfrydedd a'i phenderfynoldeb, mae'r gwasanaeth bellach ar gael ar draws Gogledd Cymru gyfan.

Mewn digwyddiad arbennig i dderbyn ei gwobr, diolchodd June i’w chydweithwyr a’i theulu am gefnogi ei gwaith.

Dywedodd: “Mae'n anrhydedd derbyn y wobr hon i gydnabod y gwaith yr ydym wedi’i wneud dros nifer o flynyddoedd i ddatblygu Meddyginiaeth ar Bresgripsiwn a gwasanaethau cwnsela yng Ngogledd Cymru.

“Datblygodd yr angen am y gwasanaeth meddyginiaeth ar bresgripsiwn pan ddechreuais weithio yn y gymuned a dechrau cael llawer o gleientiaid wedi'u cyfeirio at brosesau diddyfnu o feddyginiaeth ar bresgripsiwn. Fe’n hysbyswyd nad oeddent o fewn ein cylch gwaith, ond ar ôl gweld y llwyddiant a’r newid mewn ansawdd bywyd, roeddwn yn awyddus i ddod o hyd i ffordd i sefydlu gwasanaeth."

“Dechreuodd fy ngyrfa nyrsio yn Ysbyty Gogledd Cymru fel myfyriwr ym 1979, a dechreuodd fy niddordeb mewn helpu cleifion â dibyniaeth yn gynnar yn fy ngyrfa. Fe wnaethon nhw agor uned gyffuriau newydd ac roeddwn i’n ddigon ffodus i gael fy newis i weithio ar yr uned fel nyrs staff. Fel y dywedodd un o fy nghydweithwyr wrthyf, mae llawer o lwybrau y gallwn eu cymryd mewn bywyd ac roedd hyn yn rhan o fy llwybr i a fyddai’n sylfaen i’m gyrfa.”

Fe wnaeth June arloesi gyda’r agwedd atal o’r gwasanaeth i gefnogi'r broses o leihau'r ystod o feddyginiaethau presgripsiwn, sy'n cefnogi tua 250 o gleifion ar y tro ar hyn o bryd.

Mae hi hefyd yn rhan o’r Grŵp Seneddol Hollbleidiol (APPG) ar gyfer Dibyniaeth ar Gyffuriau ar Bresgripsiwn sy’n edrych ar ddatblygiad Gwasanaeth Arbenigol Meddyginiaeth ar Bresgripsiwn ar draws y DU, ac mae’n cefnogi’r APPG i ddatblygu gwasanaeth arbenigol cenedlaethol a llinell gymorth yn seiliedig ar y gwasanaeth a

greodd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr - yr unig fwrdd iechyd sydd â gwasanaeth o'r fath yn y DU.

Yn ystod y digwyddiad, cyflwynwyd ei BEM i June gan Arglwydd Raglaw Clwyd, Henry George Fetherstonhaugh a longyfarchodd June ynghyd â’i Rheolwr Dewi Richards, Rheolwr Gweithrediadau Clinigol y Dwyrain, Teresa Owen, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus ac Iain Wilkie, Cyfarwyddwr Dros Dro Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu ar eu gwaith.

Ym 1995, sefydlodd June hefyd dîm o wyth o fyfyrwyr cwnsela gwirfoddol i gefnogi ei gwaith. Oherwydd y llwyddiant, ehangodd y rhaglen i gefnogi'r Gwasanaeth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol ar draws pedair sir Gogledd Cymru.

Heddiw mae 55 o fyfyrwyr cwnsela, 25 o gwnselwyr cyflogedig hunangyflogedig, ynghyd â 7 cwnselydd cyflogedig BIPBC arall, ac mae mwy na 500 o gwnselwyr dan hyfforddiant wedi cael eu hyfforddi gan y gwasanaeth.

Ychwanegodd June: “Ar hyn o bryd mae’r gwasanaeth hwn yn gofalu am tua 300 o gleientiaid yr wythnos o ofal sylfaenol a PMSS, a phob blwyddyn mae’r rhaglen myfyrwyr yn darparu tua 9,000 o oriau’r flwyddyn i’r gwasanaeth i gefnogi cleientiaid.

“Roedd rhan o’m henwebiad hefyd ar gyfer menter a ymgymerais â hi ar gyfer y Bwrdd Iechyd gyda rhaglen Cymru ac Affrica, lle buom yn datblygu gwasanaethau yn Uganda am 12 wythnos, a oedd yn brofiad anhygoel.”

“Rwy’n ymwybodol iawn na fyddai’r gwasanaethau hyn lle maen nhw heddiw ac ni fyddwn yn derbyn y fedal hon oni bai am ymroddiad a chefnogaeth nifer o bobl dros nifer o flynyddoedd, a hoffwn fynegi fy niolch diffuant iddynt. ”