Neidio i'r prif gynnwy

Rhannwch eich profiadau fel gofalydd dementia teuluol er mwyn helpu i wella cymorth

Mae arbenigwyr yn galw ar bobl sy’n darparu gofal i aelod o’r teulu sy’n byw gyda dementia i rannu eu profiadau er mwyn gwella adnoddau hyfforddi i’w cefnogi.

Mae Tracey Williamson, Nyrs Ymgynghorol Dementia ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac Athro Anrhydeddus ym Mhrifysgol Caerwrangon, yn cyd-arwain prosiect o’r enw Croesi’r Llinell gyda Chymdeithas Astudiaethau Dementia yn y Brifysgol sydd wedi’i ariannu gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (NIHR).

Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar ddeall profiadau gofalwyr teuluol o ddarparu gofal personol i rywun sy’n byw gyda dementia, er mwyn ennill gwell dealltwriaeth o’r heriau y maent yn eu hwynebu wrth ddarparu gofal personol.

Dywedodd yr Athro Williamson: “Mae gofalwyr teuluol sy’n cefnogi pobl sydd â dementia wedi adrodd bod gofal personol yn bwysig iawn iddynt, er bod ymchwil wedi dangos nad oes llawer yn hysbys amdano yng nghyd-destun dementia a gofal teuluol. Byddwn ni’n datblygu adnoddau hyfforddiant ar ofal personol ar gyfer gofalwyr teuluol a’r rhai sy’n eu cefnogi.

“Gall gofal personol gynnwys amryw o weithgareddau gwahanol megis helpu gyda mynd i’r tŷ bach, ymolchi, ymdrochi, gwisgo, gofal y geg, eillio, gofal gwallt, gofal traed ac ewinedd.

“Byddwn ni’n hynod ddiolchgar pe byddai gofalwyr dementia teuluol yn cwblhau’r arolwg er mwyn rhannu eich profiadau o ddarparu gofal personol. Bydd yr holl ymatebion yn ddienw sy’n golygu na fyddwch chi’n cael eich adnabod.”

Bydd yn rhaid i’r rhai sy’n cymryd rhan fodloni’r meini prawf canlynol:

  • Rydych chi’n ofalydd teuluol presennol neu flaenorol o rywun sydd â dementia.
  • Mae gennych chi brofiad uniongyrchol o ddarparu gofal personol i rywun sydd â dementia yn y deng mlynedd diwethaf.

Os oes diddordeb gennych chi yn yr arolwg, darllenwch y daflen wybodaeth hon yn gyntaf, a chwblhewch yr arolwg ar-lein yma.

Os oes diddordeb gennych chi yn yr arolwg, darllenwch y daflen wybodaeth hon yn gyntaf, a chwblhewch yr arolwg ar-lein yma.

Os oes yn well gennych chi gopi papur, gallwn anfon yr arolwg drwy’r post, ac mae ar gael yn y Saesneg a’r Gymraeg – e-bostiwch Pauline Finlay, Cydymaith Ymchwil Croesi’r Llinell, ar p.finlay@worc.ac.uk,  i ofyn am gopi neu i ofyn am ragor o fanylion.

Gellir gwneud trefniadau hefyd ar gyfer cynnal yr arolwg ar lafar, dros y ffôn neu ar Zoom, a byddai’n cael ei recordio.

I ddod i wybod mwy am y prosiect, ewch i’r wefan yma.