Neidio i'r prif gynnwy

Prawf newydd cyneclampsia i geisio gwella gofal mamolaeth yng Ngogledd Cymru

19/10/2023

Mae prawf diagnostig newydd ar gyfer cyneclampsia, cyflwr sy’n achosi marw-enedigaethau, yn cael ei gyflwyno ar draws ysbytai yng Ngogledd Cymru.

Mae cyneclampsia yn gyflwr sy’n bygwth bwyd, sydd, os yw’n cael ei adael heb ei drin, yn achosi cymhlethdodau difrifol i’r fam a’r babi. Mae’r prawf newydd yn helpu i wella diagnosis, atal cymhlethdodau mamol, lleihau nifer y marw-enedigaethau ac atal genedigaethau cyn amser.

Yn dilyn canlyniadau positif mewn astudiaeth beilot a gynhaliwyd yn Ysbyty Maelor Wrecsam, mae’r prawf ffactor twf y brych (PLGF), sydd ar gyfer merched beichiog yr amheuir bod ganddynt gyneclampsia, wedi’i gyflwyno ar draws ysbytai Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Dywedodd Dr Lynda Verghese, Obstetrydd a Gynaecolegydd Ymgynghorol, ac Arweinydd Ward Esgor yn Ysbyty Maelor Wrecsam: “Mae’r prawf pwynt gofal newydd hwn yn gam ffantastig a chadarnhaol ymlaen mewn gofal mamolaeth. Yn hollbwysig, gellir cynnal y prawf yn agos at y cleifion ar y ward mamolaeth, gan ddileu unrhyw oedi diangen a rhoi tawelwch meddwl mawr ei angen i'r tîm meddygol a'r claf, gan leihau pryder mamau a chaniatáu i famau ddychwelyd adref yn ddiogel ar gyfer derbyn gofal fel cleifion allanol.

“Trwy ddefnyddio’r prawf hwn, gallwn wella profiad cyffredinol y merched hyn, gan leihau’r effaith ar eu hiechyd meddwl ac osgoi’r straen o droi eu bywydau ben i waered – gall hyn gynnwys yr angen am ofal plant ychwanegol, amser i ffwrdd o’r gwaith a chostau teithio annisgwyl.” Nid oes gan y profion gwaed ac wrin sylfaenol sy’n cael eu defnyddio ar gyfer asesu difrifoldeb cyneclampsia yn y DU ar hyn o bryd y sensitifrwydd sydd ei angen i ragweld canlyniad y claf, felly mae nifer sylweddol o ferched beichiog yn cael eu derbyn i’r ysbyty am arsylwadau pellach.

Cyflwynodd Dr Verghese a Dr Yee Ping Teoh y prawf PLGF personol newydd i ategu gwneud penderfyniadau. Gall y canlyniadau gymryd dim ond 15 munud gan ganiatáu i feddygon roi merched beichiog mewn grŵp risg a nodi’r rhai sydd mwyaf tebygol o roi genedigaeth ymhen 14 diwrnod.

Dangosodd astudiaeth beilot y gallai'r rhai sydd fwyaf mewn perygl o gael lefel PLGF anarferol o isel gael eu trin yn brydlon er mwyn atal cymhlethdodau pellach fel eclampsia, strôc neu afiachusrwydd mamol. Cafodd 68% o ferched ofal cyflym fel cleifion allanol yn unig, heb orfod cael eu derbyn, a ni chafwyd unrhyw farw-enedigaethau na genedigaethau cyn amser cyn 37 wythnos.

Cefnogwyd y prosiect gan Strategaeth Arloesi i Gymru gan Lywodraeth Cymru, ac mae hefyd wedi’i hyrwyddo gan Gomisiwn Bevan fel prosiect enghreifftiol yn y Senedd gyda’r nod o’i gyflwyno’n ehangach ar draws gweddill Cymru.

Dywedodd Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan: “Mae hwn yn gyfnod hynod gyffrous i arloesedd; yr wythnos hon, lansiodd Llywodraeth

Cymru’r Strategaeth Arloesi i Gymru sy’n gosod sut y byddwn yn harneisio arloesedd i fodloni nodau Cymru a mynd i’r afael â heriau’r system.

“Tros y ddegawd ddiwethaf, rydym wedi gweld datblygiad sylweddol o ran arloesedd iechyd a gofal yma yng Nghymru, gydag enghreifftiau newydd a chyffrous o ymarfer a thechnoleg glinigol yn deillio o GIG Cymru, ein Prifysgolion Cymraeg a’r sector preifat. Trwy ein strategaeth arloesi newydd, rwy’n edrych ymlaen at weld mwy a mwy o fentrau megis profi PLGF yn cael eu cyflwyno ar draws ein sector iechyd a gofal ymrwymedig yng Nghymru.”